Menyw yn sefyll dan do o flaen rhaniad gwydr

Mae pennaeth arloesol efelychu a dysgu ymdrochol Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.

Mae Gwobrau Dewi Sant yn cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau neilltuol pobl o bob cefndir yng Nghymru a thramor.

Mae'r Athro Joanne Davies, cyfarwyddwr sefydlu Canolfan Efelychu a Dysgu Ymdrochol Prifysgol Abertawe (SUSIM) wedi cael ei henwebu am y wobr arloesi, gwyddoniaeth a thechnoleg am ei gyrfa genedlaethol a rhyngwladol mewn addysg, ymchwil ac arloesi ym maes gofal iechyd.

Mae ei henwebiad yn talu teyrnged i'w chyfuniad o dosturi ac arbenigedd arloesol a'r ffordd mae hi wedi trawsnewid tirwedd hyfforddiant drwy sicrhau bod dysgu ar sail efelychu'n cael effaith yn y byd go iawn. Mae'n ychwanegu bod arweinyddiaeth flaengar yr Athro Davies wedi gosod Cymru ar flaen y gad ym maes hyfforddiant gofal iechyd ac yn pwysleisio ei bod hi'n enghraifft o arloesi â dyngarwch.

Meddai'r Athro Davies: "Mae'n fraint cael fy enwebu am y fath anrhydedd ac rwy'n hynod falch o hyn; mae cael fy rhoi ar y rhestr fer yn gydnabyddiaeth wych o'r hyn mae SUSIM, y timau yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd a minnau wedi bod yn ceisio ei gyflawni yn Abertawe.

"Mae'n anrhydedd personol sydd hefyd yn cydnabod yr effaith mae SUSIM wedi'i chael ers iddo agor ei ddrysau ym mis Medi 2023. Erbyn hyn rydyn ni'n cynnig profiad dysgu heb ei ail i weithwyr iechyd proffesiynol y dyfodol a staff sy'n gweithio yn y maes ar hyn o bryd, gan roi cyfle iddyn nhw fireinio a gwella eu hymarfer. Drwy gefnogi timau meddygol a meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd proffesiynol, rydyn ni'n gwybod ein bod yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ofal cleifion."

Eleni, bydd 11 Wobr Dewi Sant yn cael eu dyfarnu, a'r cyhoedd sy'n enwebu'r ddeg gyntaf o'r rhain. Caiff y rhestr fer a'r enillwyr eu dewis gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, a'i chynghorwyr.

Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni i'w chynnal yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

 

Rhannu'r stori