Llun: Pexels
Wrth i flwyddyn newydd ddechrau, bydd llawer ohonom yn chwilio am ffordd o roi hwb i'n hwyliau ond p’un sy’n well i’n hiechyd meddwl - mynd i'r gampfa neu fyfyrio ym myd natur? Bellach mae ymchwil newydd gan arbenigwyr o Abertawe wedi cymharu ymyriadau lles i oedolion ar y raddfa fwyaf erioed.
Adolygodd y tîm 183 o dreialon wedi'u rheoli ar hap, gan gynrychioli bron 23,000 o gyfranogwyr a chan werthuso 12 categori o ymyriadau'n amrywio o ymagweddau seicolegol, corfforol, meddwl-corff a rhai'n seiliedig ar natur, i ganfod mwy. Eu hymchwil nhw oedd y gymhariaeth rynddisgyblaethol gyntaf o’i bath i gael ei chynnal ar draws ymyriadau seicolegol, corfforol, meddwl-corff ac amgylcheddol.
Mae'r astudiaeth sydd newydd gael ei chyhoeddi yn Nature Human Behaviour, yn cynnig cipolwg integredig ar sut mae disgyblaethau gwahanol yn cyfrannu at les. Drwy ganolbwyntio ar samplau oedolion cyffredinol yn hytrach na grwpiau clinigol, mae'n rhoi tystiolaeth a fydd yn berthnasol i ddatblygu rhaglenni cymunedol, iechyd cyhoeddus, addysg a lles yn y gweithle.
Prif ganfyddiadau'r ymchwilwyr oedd:
- Gwnaeth y rhan fwyaf o'r ymyriadau wella lles o'u cymharu â'r grwpiau anweithredol wedi'u rheoli;
- Gwelwyd yr effeithiau gorau mewn perthynas ag ymyriadau ymarfer corff wedi’u cyfuno ag ymyriadau seicolegol (er enghraifft, teithiau cerdded bwriadol i werthfawrogi pethau o'ch cwmpas neu fyfyrio wedi'i gyfuno â cherdded);
- dangosodd ymyriadau corff-meddwl effeithiau cymedrol a dibynadwy cyson;
- gwnaeth ymarfer corff greu buddion tebyg i lawer o ymyriadau seicolegol; ac roedd
- ymyriadau seicoleg gadarnhaol - fel cydran unigol ac fel cydrannau lluosog - hefyd yn effeithiol.
Dywedodd y prif awdur, Dr Lowri Wilkie, o'r Ysgol Seicoleg: "Mae ein dadansoddiad yn dangos nad oes un llwybr penodol at wella lles. Dangoswyd bod ymyriadau ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ioga, ymarfer corff a seicoleg gadarnhaol oll yn dangos buddion cymedrol o'u cymharu â grwpiau wedi'u rheoli ac i bob golwg roedd cyfuno gweithgarwch corfforol ag ymyriadau seicolegol yn arbennig o addawol.
"Drwy ddefnyddio metaddadansoddi rhwydweithiol, roedden ni'n gallu cymharu ymyriadau gwahanol iawn o ddisgyblaethau gwahanol o fewn un fframwaith, gan roi i lunwyr polisi ac ymarferwyr syniad llawer mwy eglur o'r amrywiaeth o opsiynau effeithiol sydd ar gael ar gyfer adeiladu lles ymysg y boblogaeth gyffredinol."
Oherwydd bod yr ymyriadau wedi cael eu profi mewn poblogaethau cyffredinol, mae'r dystiolaeth yn berthnasol yn uniongyrchol i strategaethau lles poblogaethau, gan gynnwys ymdrechion i wella gwydnwch a chefnogi iechyd meddwl cyn i broblemau fynd o ddrwg i waeth. Mae canlyniadau'r astudiaeth yn ategu fframwaith GENIAL a arweinir gan Abertawe, sy'n pwysleisio lles fel rhywbeth sy'n seiliedig ar gysylltiad unigolyn ag ef ei hun, ag eraill ac â byd natur.
Ychwanegodd yr uwch-awdur yr Athro Andrew Kemp: "Mae'r astudiaeth hon yn ei gwneud hi'n glir bod modd cefnogi lles drwy sawl llwybr sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae ymyriadau seicolegol, ymarfer corff ac ymarferion meddwl-corff oll yn perfformio'n dda, sy'n golygu y gall gwasanaethau a llunwyr polisi fanteisio ar hyblygrwydd go iawn i ddylunio rhaglenni sy'n cydweddu â lleoliadau a dewisiadau.
"I ni, mae'r papur hwn hefyd yn nodi carreg filltir bwysig mewn cydweithrediad hirdymor rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac yn amlygu sut gall ymchwil ryngddisgyblaethol drylwyr ddylanwadu ar ymagweddau lefel poblogaeth at iechyd meddwl a lles."
Dywedodd Dr Zoe Fisher, seicolegydd clinigol ymgynghorol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: "I ymarferwyr a gwasanaethau, mae'r canfyddiadau hyn yn ddefnyddiol iawn. Dengys yr astudiaeth y gall amrywiaeth o ymyriadau gynnig dull dibynadwy o wella lles, sy'n golygu y gallwn deilwra cymorth yn unol ag anghenion a dewisiadau cymunedau gwahanol.
"Mae ehangder ac ansawdd y dystiolaeth hon yn atgyfnerthu'r sylfaen ar gyfer datblygu rhaglenni lles hygyrch a hyblyg ledled Bae Abertawe a'r tu hwnt."
Dysgwch fwy am ein hymchwil i ymyriadau lles cyfannol arloesol yn yr Ysgol Seicoleg