Llun o du allan i adeilad CISM ar Gampws y Bae, Prifysgol Abertawe Siâp petryal yw'r adeilad gyda chladin du a gwyn.

Bydd Prifysgol Abertawe'n arwain menter genedlaethol o bwys i fynd i'r afael â'r bwlch yn sgiliau lled-ddargludyddion y DU drwy lansio Canolfan Hyfforddiant Doethurol newydd mewn sgiliau lled-ddargludyddion.

Bydd Canolfan Hyfforddiant Doethurol Sgiliau'r Dyfodol y Diwydiant Lled-ddargludyddion y DU (UK-SIFS) yn cael ei harwain gan Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad agos â Phrifysgol Leeds ac fe'i cefnogir gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU fel rhan o Strategaeth Ddiwylliannol ehangach.

Bydd y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn cyflwyno hyfforddiant ar lefel ddoethurol uwch mewn sgiliau lled-ddargludyddion sy'n hollbwysig i uchelgeisiau'r DU am sector gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion gwydn a chystadleuol.

Drwy gyfuno ymchwil academaidd drwyadl â hyfforddiant gan ddiwydiant, bydd UK-SIFS yn creu piblinell o hyd at 60 o fyfyrwyr PhD hynod fedrus dros bum carfan, a fydd wedi'u hyfforddi i ysgogi arlosedd a bodloni galwadau technegol y genhedlaeth nesaf o dechnolegau lled-ddargludyddion.

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil pedair blynedd mewn partneriaeth â chwmnïau blaenllaw'r DU ym maes lled-ddargludyddion ac mewn sectorau cysylltiedig. Bydd y rhaglen yn cynnig llwybrau hyfforddi hyblyg, gan gynnwys astudio rhan-amser a chyfleoedd i weithwyr proffesiynol ymgymryd â phrosiectau ymchwil gyda'u cyflogwyr presennol wrth barhau â'u datblygiad proffesiynol. Ffocws allweddol fydd ailhyfforddi doniau o ddiwydiannau eraill sy’n galw am lefel uchel o sgiliau lle mae cyfleoedd yn prinhau i sicrhau gweithlu cadarn sy'n gallu addasu ar gyfer y dyfodol.

Mae UK-SIFS yn cynrychioli buddsoddiad ar y cyd gwerth oddeutu £18 miliwn, gan gynnwys £10 miliwn gan Adran Gwyddoniaeth, Arloesi a Thechnoleg Llywodraeth y DU gyda chyfraniadau ychwanegol gan Brifysgol Abertawe, Prifysgol Leeds a 24 o bartneriaid diwydiant a chenhadaeth ddinesig.

Cynhelir yr hyfforddiant a'r gwaith ymchwil mewn cyfleusterau ystafell lân o'r radd flaenaf yn adeilad CISM Abertawe a Chanolfan Bragg ar gyfer Ymchwil Deunyddiau yn Leeds - sy'n cynrychioli dros £80 miliwn o fuddsoddiad ar y cyd.  Mae'r cyfleusterau hyn wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion diwydiant, gan gynnig gwasanaethau megis mannau deori i fusnesau newydd i gefnogi ymhellach ecosystem lled-ddargludyddion y DU.

Meddai'r Athro Paul Meredith, Cyfarwyddwr y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol, Prifysgol Abertawe a chyd-Gyfarwyddwr UK-SIFS:

"Mae UK-SIFS yn ffordd hollol wahanol o feddwl am hyfforddiant doethurol ar gyfer sector lled-ddargludyddion y DU - mae'n hyfforddiant hyblyg ac ymarferol sy'n cynnwys ymchwil o'r radd flaenaf sy'n berthnasol i fyd diwydiant".

Meddai'r Athro Edmund Linfield, Cyfarwyddwr Canolfan Bragg ar gyfer Ymchwil Deunyddiau, Prifysgol Leeds a chyd-gyfarwyddwr UK-SIFS:

"Bydd UK-SIFS yn cefnogi ystod eang o brosiectau arloesol ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg, gan hyfforddi gweithlu hynod fedrus ac amrywiol y dyfodol sydd ei angen ar gyfer y sector lled-ddargludyddion."

Meddai Howard Rupprecht, Rheolwr-gyfarwyddwr CSconnected Ltd:

"Dyma newyddion gwych i sgiliau yn y diwydiant lled-ddargludyddion a sectorau cysylltiedig. Mae angen i ni gyflymu ac amrywio'r broses o ddatblygu’r gweithlu, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i gefnogi twf cyflym y clwstwr gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion yn ne Cymru a arweinir gan fuddsoddiad sylweddol gan gwmnïau amlwladol megis Vishay, KLA, Microchip ac IQE.”

Meddai'r Athro Charles JM Footer, Cymrawd QinetiQ:

"Mae'r cyhoeddiad hwn am Ganolfan Hyfforddiant Doethurol UK-SIFS yn nodi dechrau buddsoddiad cyffrous a hollbwysig yn nyfodol gallu lled-ddargludyddion y DU a'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr blaenllaw yn y maes. Yn QinetiQ, rydym yn cydnabod pwysigrwydd strategol datblygu gweithlu hynod fedrus i gefnogi gweithgynhyrchu uwch a diogelwch cenedlaethol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol."

Rhannu'r stori