Mae Canolfan Hyfforddiant Doethurol (CDT) yr EPSRC mewn Sgiliau Dyfodol Diwydiant Lled-ddargludyddion y DU yn fenter newydd gyffrous gwerth £18.5M mewn ymchwil ôl-raddedig a gynhelir rhwng Canolfan Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Leeds a bydd yn recriwtio o leiaf 50 o fyfyrwyr dros 5 carfan flynyddol rhwng y ddwy safle.
Wedi'i hategu gan fuddsoddiad gwerth £74 miliwn mewn isadeiledd yn y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol ac Ystafell Lân Nanodechnoleg Bragg, ac wedi'i chreu ar y cyd â mwy na 24 o bartneriaid diwydiant cenedlaethol a rhyngwladol, mae'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn sefyllfa unigryw i ddarparu hyfforddiant doethurol sy'n drwyadl o ran technoleg, sy'n berthnasol yn ddiwydiannol ac sy'n gynhwysol o fis Hydref 2026. Bydd UK-SIFS yn creu profiad carfan bywiog, amlddisgyblaethol i bob myfyriwr ac yn darparu hyfforddiant ymarferol iawn o werth sylweddol i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd yn y sector lled-ddargludyddion a sectorau cysylltiedig fel optoelectroneg ac ynni glân.
Mae lled-ddargludyddion yn sylfaenol i bob rhan o'r gymdeithas fodern - cyfathrebu, ynni, trafnidiaeth, diogelwch a gofal iechyd - ond mae'r DU yn wynebu prinder sylweddol o sgiliau arbenigol ar draws y gadwyn gyflenwi. Mae UK-SIFS yn mynd i'r afael â’r her hon yn uniongyrchol drwy ddarparu hyfforddiant doethurol uwch sy'n cyfuno arbenigedd technegol ymarferol ag ymchwil ryngddisgyblaethol ac ymgysylltiad cryf â diwydiant. Bydd ein graddedigion yn cyfrannu ar unwaith at weithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes lled-ddargludyddion, ond byddant hefyd yn datblygu i fod yn arweinwyr academaidd, diwydiannol a dinesig y sector yn y dyfodol.
Mae nodweddion a manteision nodedig y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol yn cynnwys:
- Dull carfan sy'n cynnal cymorth gan gymheiriaid.
- Prosiectau amlddisgyblaethol gydag ystod eang o gyfleoedd i ymgysylltu â'r diwydiant lled-ddargludyddion.
- Datblygiad proffesiynol pwrpasol (e.e. sgiliau cyfathrebu, masnacheiddio, rheoli prosiectau), hyfforddiant technegol (e.e. sgiliau cynhyrchu mewn ystafell lân, nodweddu uwch, trosi technoleg) a digwyddiadau consortiwm.
- Tîm academaidd ymroddedig yn Abertawe i'ch cefnogi.
- Byddwch yn rhan o Ganolfan flaenllaw newydd Prifysgol Abertawe gwerth £55M ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) lle mae gweithgynhyrchu'n cwrdd ag ymchwil a datblygu. Wedi'i agor yn 2025, mae'r cyfleuster yn cynnig ystafelloedd glân o’r radd flaenaf ar gyfer cynhyrchu lled-ddargludyddion, labordai arbrofol cysylltiedig a dylunio, profi a nodweddu dyfeisiau.
- Mynediad i gyfres o gyfleusterau arbrofi â deunyddiau arbenigol yn Abertawe ac yn ein safle partner yn Leeds, sy'n cynnwys offer sy'n unigryw i'r DU ac Ewrop.
Os ydych chi am ymgymryd ag ymchwil arloesol mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf sydd â chysylltiad agos â sector lled-ddargludyddion y DU sy'n ehangu'n gyflym, yna ni yw'r Ganolfan Hyfforddiant Doethurol i chi.
Byddem yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr â’r cymwysterau priodol sydd â phrofiad o sectorau diwydiant eraill sy’n awyddus i gychwyn ar daith yrfa newydd mewn lled-ddargludyddion.
Cysylltwch ag uksifs@abertawe.ac.uk am ragor o wybodaeth.
