HYFFORDDI’R GENHEDLAETH NESAF O WYDDONWYR CYMDEITHASOL BLAENLLAW
Mae'r WGSSS (Ysgol Graddedigion Gwyddorau Cymdeithasol Cymru), Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru'r ESRC gynt, yn hyfforddi'r gwyddonwyr cymdeithasol gorau ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar gymdeithas heddiw. Mae'r WGSSS yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Swydd Gaerloyw a Phrifysgol Abertawe. Fel aelod cyswllt o'r WGSSS, mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cymryd rhan yn ein hyfforddiant a'n datblygiad i ymchwilwyr a rennir.
Mae'n datblygu ac yn adeiladu ar hanes o gydweithio llwyddiannus ar hyfforddiant gwyddor gymdeithasol doethurol yng Nghymru - mae'r WGSSS a'i rhagflaenydd wedi cynnig tua 70 o ysgoloriaethau ymchwil ôl-raddedig newydd bob blwyddyn. Mae'r WGSSS yn paratoi myfyrwyr doethurol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol drwy greu gwybodaeth a meithrin galluoedd deallusol a sgiliau ymchwil sy'n galluogi cyfraniadau rhagorol i ddatblygiad amgylcheddol, gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol.
Mae'r WGSSS yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o 14 Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol achrededig yr ESRC ledled y DU sy'n darparu mynediad at hyfforddiant ymchwil o safon yn y gwyddorau cymdeithasol ac economaidd i fyfyrwyr PhD.
Ym Mhrifysgol Abertawe, mae myfyrwyr WGSSS hefyd yn elwa o ddigwyddiadau rhwydweithio rheolaidd, cylchlythyr lleol, cynrychiolwyr myfyrwyr ar y ddau gampws a thîm cyflawni pwrpasol yn Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe. Mae’r tîm cyflawni hwn yn cynnig cymorth ac arweiniad ar gyfer ystod eang o ymholiadau, gan gynnwys recriwtio, derbyn myfyrwyr, cyllid, cynnydd, datblygu sgiliau a mwy.
Mae'r WGSSS yn recriwtio myfyrwyr mewn dwy ffordd: yr Alwad Gydweithredol, lle gallwch gyflwyno cais am brosiectau a bennwyd ymlaen llaw sy'n cynnwys partneriaid anacademaidd, a'r Alwad Gyffredinol, lle gallwch ddatblygu eich cynnig am ysgoloriaeth ymchwil PhD.
Trwy eu hysgoloriaethau ymchwil cydweithredol, gall sefydliadau cyhoeddus, preifat neu yn y trydydd sector noddi prosiect ymchwil ym maes y gwyddorau cymdeithasol a chael rôl wrth greu’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cymdeithasol blaenllaw. Mae ysgoloriaethau ymchwil cydweithredol a gynhelir gan Brifysgol Abertawe yn cynnwys partneriaid megis yr NSPCC, y GIG, Royal United Services Institute (RUSI), Llywodraeth Cymru, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Dŵr Cymru, Oxford University Press a’r Multiple Sclerosis Society.
Mae Prifysgol Abertawe’n cynnal y llwybrau canlynol:
- Gwyddor Data, Iechyd a Lles
- Economi a Chymdeithas Ddigidol
- Economeg
- Addysg
- Astudiaethau Amgylcheddol
- Gwleidyddiaeth, Cysylltiadau Rhyngwladol ac Astudiaethau Ardal
- Daearyddiaeth Ddynol
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau Digidol a Democratiaeth
- Y Gyfraith a Throseddeg
- Ieithyddiaeth a Dwyieithrwydd
- Rheoli a Busnes
- Seicoleg
- Polisi Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol
- Cymdeithaseg/Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff