Grŵp o 10 o fenywod yn gwenu yn sefyll y tu mewn o flaen baneri a phwllau

Helpu cleifion i gael gwell mynediad at ofal iechyd trawsffiniol, platfform addysg hinsawdd a chynaliadwyedd ac offeryn sy'n coladu adalw cynnyrch byd-eang – dyma rai o'r syniadau disglair gan fenywod arloesol Prifysgol Abertawe.

Mae'r Brifysgol yn falch o fod ymhlith yr aelodau cyntaf sy'n bartneriaid y rhwydwaith cenedlaethol WE Innovate. Dan arweiniad Coleg Imperial, Llundain, mae WE Innovate yn bwriadu cynnal y rhaglen bob blwyddyn i gefnogi cyfanswm o 150 o dimau dan arweiniad menywod o sefydliadau sy'n cymryd rhan.

Nawr mae'r garfan gyntaf o 15  aelod o Abertawe a ddewiswyd i gymryd rhan yn y fenter wedi'i chyhoeddi ac maent wedi llunio ystod eang o brosiectau sy'n cynnwys gofal iechyd, meddalwedd wedi'i phweru gan AI, technoleg feddygol ac effaith gymdeithasol. 

Roedd y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi'r Athro Helen Griffiths o'r farn ei bod yn arbennig o briodol bod Abertawe wedi ymuno â'r rhwydwaith a fydd yn ei helpu i barhau i annog entrepreneuriaid y dyfodol.

Wrth siarad mewn digwyddiad i gyflwyno cyfranogwyr cyntaf WE Innovate, meddai: "Dyma foment sy'n cyfleu'n uniongyrchol pwy ydym ni fel prifysgol - sefydliad a sefydlwyd gan fyd diwydiant, ar gyfer byd diwydiant, ac un sy'n parhau i hyrwyddo arloesi, entrepreneuriaeth, ac effaith yn y byd go iawn ar draws popeth a wnawn. 

"Mae mentergarwch yn un o'n pum piler strategol, ac mae wedi'i wehyddu i'n diwylliant - o ymchwil academaidd a dylunio cwricwlwm i bartneriaethau ac ymgysylltu dinesig."

Cymerodd y cyfranogwyr a ddewiswyd, sy'n dod o'n cymuned staff, myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, eu tro i gyflwyno eu hunain, eu syniadau a pham maen nhw'n teimlo y gall eu harloesiadau wneud gwahaniaeth.

Dros y chwe mis nesaf, bydd y rhaglen yn eu cefnogi drwy gyfres o ddosbarthiadau meistr, hyfforddiant busnes, cymorth arbenigol unigol, a mentora gan gymheiriaid, a bydd y pum tîm gorau yn cystadlu am gyfle i ennill cyfran o gronfa wobr gwerth £30,000 yn ddiweddarach eleni, sydd wedi'i rhoi yn bersonol gan y cyn-fyfyriwr a'r entrepreneur Anne Boden.

Ar ôl i'r cyfranogwyr rannu eu syniadau, ychwanegodd y Dirprwy Is-ganghellor (Addysg) yr Athro Deborah Youngs: "Rydym wedi gweld beth sy'n digwydd pan fydd uchelgais, talent a chyfle yn dod at ei gilydd. Ac rydym wedi gweld - yn glir iawn - bod Prifysgol Abertawe yn barod i chwarae rôl flaenllaw wrth lunio'r genhedlaeth nesaf o arloesi dan arweiniad menywod."

Sefydlwyd WE Innovate gyntaf yn Imperial yn 2014 i fynd i'r afael â'r heriau y mae busnesau dan arweiniad menywod yn aml yn eu hwynebu yng nghyfnodau cynharaf eu datblygiad, fel mynediad cyfyngedig at gyllid, rhwydweithiau a chymorth busnes.

Daw cyfranogiad Prifysgol Abertawe yn y rhwydwaith wrth iddi barhau i adeiladu ar ei henw da byd-eang am feithrin entrepreneuriaeth ar draws cymuned y Brifysgol drwy ei Strategaeth Fentergarwch bwrpasol.

Ar hyn o bryd mae hi yn y pedwerydd safle ymhlith sefydliadau addysg uwch y DU ar gyfer cwmnïau deillio ac mae ymysg yr 20 uchaf yn y DU ar gyfer busnesau cychwynnol myfyrwyr a graddedigion, yn ôl safleoedd uchel eu bri HE-BCI. Mae hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Prifysgol Entrepreneuraidd Eithriadol Times Higher Education dair gwaith.  

Rhagor o wybodaeth am gymorth mentergarwch yn Abertawe

 

Rhannu'r stori