Mae seicolegydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o dîm o academyddion rhyngwladol sy'n profi credadwyedd ymchwil.
Mae Dr Alex Jones a mwy nag 860 o gydweithwyr ar draws y byd wedi bod yn rhannu eu barn ar ymchwil newydd fel rhan o'r rhaglen Systematizing Confidence in Open Research and Evidence (SCORE).
Mae'n cynnig tystiolaeth empirig newydd ar atgynhyrchadwyedd, cadernid a dyblygadwyedd ymchwil ar draws y gwyddorau cymdeithasol ac ymddygiadol ac yn ceisio rhagweld eu dyblygadwyedd. Gwnaeth y rhaglen archwilio gallu pobl a pheiriannau i ragfynegi dyblygadwyedd canfyddiadau'r gwaith ymchwil. Mae'r canlyniadau newydd gael eu cyhoeddi yn Nature fel casgliad o dri phapur a phum erthygl cyn eu cyhoeddi ychwanegol.
Bu'r rhaglen yn samplu honiadau o 3,900 o bapurau a gyhoeddwyd rhwng 2009 a 2018 mewn 62 o gyfnodolion yn rhychwantu meysydd troseddeg, economeg, addysg, iechyd, rheolaeth, seicoleg, gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg a meysydd eraill.
Mae Dr Jones, o'r Ysgol Seicoleg, wedi bod yn rhan o waith ymchwil ar thema cadernid, gan astudio'r hyn sy'n digwydd pan fydd llawer o ymchwilwyr profiadol yn cael setiau data a rhagdybiaeth syml, ac yn defnyddio eu sgiliau dadansoddi data a dod i gasgliadau ystadegol i brofi'r rhagdybiaeth honno.
Mae'r awduron yn profi pwysigrwydd ymagwedd o'r enw dadansoddiad aml-fydysawd, sy'n golygu cynnal pob dadansoddiad posib. Drwy edrych ar draws ystod o ddadansoddiadau a gyflwynwyd, gwelodd yr awduron ystod eang o ddadansoddiadau gwahanol, yn ogystal â chasgliadau o'r un data a rhagdybiaeth.
Gwnaeth Dr Jones gyfrannu un o'r dadansoddiadau hyn, gan ddefnyddio math o ddadansoddiad ystadegol o'r enw model hierarchaidd Bayesaidd i brofi'r rhagdybiaeth wreiddiol a hefyd gwnaeth adolygu dadansoddiadau ymchwilwyr eraill.
Meddai: "Mae'r prosiect hwn yn amlygu ansicrwydd casgliadau sy'n deillio o’r ffordd y mae dadansoddiadau ystadegol yn cael eu defnyddio mewn gwyddoniaeth. Gall ymchwilwyr profiadol ddod i gasgliadau gwahanol yn hawdd wrth brofi'r un rhagdybiaeth ar yr un set ddata. Mae hyn yn dangos pa mor oddrychol yw gwyddoniaeth.
"Gall ymagweddau aml-fydysawd helpu i fesur y goddrychedd hwn, ond mae'r gwaith hwn hefyd yn dangos pwysigrwydd hollbwysig cael model damcaniaethol clir ar gyfer ein cwestiynau, sydd ar goll yn aml mewn gwyddor gymdeithasol."
Mae canlyniadau'r rhaglen yn datgelu nad oes un dangosydd o ailadroddadwyedd tystiolaeth na chredadwyedd ymchwil yn fwy cyffredinol.
Meddai un o arweinwyr prosiect SCORE, Tim Errington: "Mae prif neges SCORE yn un syml: mae gwaith ymchwil yn galed. Ac mewn rhai ffyrdd, mae'r gwaith caled yn dechrau ar ôl gwneud y darganfyddiad. Mae angen swm sylweddol o waith i wirio a chael digon o hyder mewn darganfyddiadau newydd i adeiladu sylfeini ar gyfer darganfyddiadau pellach."
Dysgwch fwy am Ysgol Seicoleg