(Cefn, o'r chwith) Dr Dafydd Cotterell, Yr Athro Louisa Huxtable-Thomas, Amrul Nazri a Hazina Mohamad. (Blaen) Dr Fiona Jordan a Rizal Nainy.
Cafodd busnesau bach a chanolig (BBaChau) Malaysiaidd help llaw wrth lansio eu cynhyrchion yn y DU, diolch i arbenigedd Prifysgol Abertawe.
Datblygwyd rhaglen addysg weithredol newydd o'r enw Soft Landings mewn cydweithrediad rhwng y Brifysgol a dwy asiantaeth llywodraeth Malaysia, sef SME Corporation Malaysia a Pernas.
Nod y rhaglen yw cefnogi brandiau Malaysiaidd sefydledig i symud i mewn i farchnadoedd y DU ac mae eisoes wedi cynorthwyo 29 o BBaChau gyda'u dyheadau rhyngwladoli. Mae Rhaglen Soft Landings yn rhaglen addysg weithredol ddwys wythnos o hyd sy'n rhoi i gyfranogwyr wybodaeth ymarferol a damcaniaethol am sefydlu a chynnal busnes yn y DU.
Yn ystod y rhaglen, mae tîm o bump academydd o'r Ysgol Reolaeth yn ymweld â Malysia bob haf i gynnig gwasanaethau datblygiadol ac ymgynghori iteraidd i fusnesau sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen yn Abertawe.
Trwy'r prosiect hwn, gwnaeth yr Ysgol Reolaeth hefyd gefnogi Pernas ar genhadaeth fasnach i'r Almaen, lle aeth academyddion o Brifysgol Abertawe ati i gasglu ac adrodd ar ddealltwriaeth allweddol o ran marchnadoedd mewn perthynas â phrif ddiwydiannau'r Almaen.
Mae'r rhaglen wedi cael cydnabyddiaeth gan lywodraethau'r DU a Malaysia, wrth i dîm y Brifysgol gwrdd â chynrychiolwyr yn Swyddfa Uchel Gomisiynydd Malaysia yn Llundain a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Prydain yn Kuala Lumpur.
Y rhaglen hon yw'r datblygiad diweddaraf mewn cydweithrediad parhaus rhwng Prifysgol Abertawe a Llywodraeth Malaysia. Ym mis Rhagfyr, llofnododd y Brifysgol ac SME Corp. Malaysia Femorandwm o Gyd-ddealltwriaeth sydd â'r nod o wella'r berthynas a chreu rhagor o ffyrdd o gydweithio.
Dywedodd Arweinydd Rhaglen Soft Landings Dr Dafydd Cotterell: "Mae Rhaglen Soft Landings yn cynrychioli ychwanegiad arloesol sy'n canolbwyntio ar fyd diwydiant at bortffolio addysg weithredol ein Hysgol. Ymhlith y busnesau rydym wedi'u cefnogi hyd yn hyn mae'r gadwyn bwyty stêc Asiaidd MeetBros, a agorodd ddau leoliad yn ddiweddar yn Llundain.
“Rydw i bellach yn edrych ymlaen at groesawu llawer mwy o fusnesau i'r rhaglen ac ehangu'r gwaith rydyn ni'n ei wneud gydag SME Corp."
Dywedodd y Prif Swyddog Strategaeth yn Pernas, Hazina Mohamad "Rydym yn falch o weithio mewn partneriaeth â'r Ysgol Reolaeth sy'n gweithredu fel ein darparwr hyfforddiant rhyngwladol. Mae'r canlyniadau eisoes yn addawol ac yn dwyn ffrwyth. Yn fwy arwyddocaol, mae 20 y cant o'n cwmnïau sy'n cymryd rhan wedi llwyddo i fentro i'r farchnad ryngwladol."
Mae'r cydweithrediad diweddaraf hwn yn adeiladu ar berthynas â Malaysia sy'n dyddio nôl i 2016 a gafodd ei chyfoethogi ymhellach pan lansiodd y Brifysgol ei phresenoldeb yn y wlad.
Dysgwch fwy am yr Ysgol Reolaeth