Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi bod yn llwyddiannus yn y rownd ddiweddaraf o ddyfarniadau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
Cafodd enwau’r rhai sydd wedi cael dyfarniadau cyllid personol Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru eu cyhoeddi heddiw, a disgwylir i’r holl ddyfarniadau ddechrau ar 1 Ebrill 2026.
Trwy’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu, mae cyllid dyfarniadau personol wedi’i ddyfarnu i ymchwilwyr o bob cwr o Gymru. Bydd pob un o’r rhai sy’n cael dyfarniad personol newydd yn dod yn aelodau o Gyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn awtomatig, gan sicrhau mynediad at gymorth wedi’i deilwra, cyfleoedd mentora, adnoddau hyfforddi a digwyddiadau rhwydweithio ledled Cymru.
Meddai Michael Bowdery, Pennaeth yr Is-adran Rhaglenni, Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth yn Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch iawn o longyfarch y rhai sydd wedi cael dyfarniadau’r Cynllun Ymchwilydd sy’n Datblygu eleni wrth iddyn nhw ddechrau ar gam nesaf eu gyrfaoedd.”
Y rhai o Brifysgol Abertawe sydd wedi cael dyfarniadau yw:
- Dr Helen Daniels, Gwyddonydd Data, Gwyddor Data Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
Swm y cyllid: £29,140
Cyfnod dyfarnu: Ebrill 1, 2026 i Mawrth 31, 2027
- Dr Maria Cheshire Allen, Gwyddonydd Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe
Swm y cyllid: £43,283
Cyfnod dyfarnu: Ebrill 1, 2026 i Mawrth 31, 2027
Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld rhestr lawn o’r rhai sydd wedi cael y dyfarniadau diweddaraf.