Pedwar plentyn ifanc ac un fenyw yn eistedd o amgylch bwrdd yn yr ystafell ddosbarth gan ddefnyddio pennau a phapur

Llun: Shutterstock

Mae tîm ymchwil cydweithredol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe newydd gyhoeddi canllawiau newydd sydd â'r nod o gefnogi athrawon newydd i ymgorffori hawliau cyfranogiad plant mewn ysgolion.

Mae Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion, sydd wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), yn herio'r broblem o drosi bwriad polisi i ymarfer addysgol, gyda ffocws ar hawliau cyfranogiad plant ifanc mewn dosbarthiadau ac ysgolion.

Roedd briff polisi blaenorol y prosiect yn ymdrin â deddfwriaeth a pholisi addysgol Cymru mewn ysgolion cynradd. Ei ffocws diweddaraf yw Addysg Gychwynnol Athrawon () yng Nghymru.

Defnyddiodd y tîm ddata a gasglwyd yn flaenorol gydag athrawon a phlant ochr yn ochr â grwpiau ffocws a gweithdai gydag athrawon dan hyfforddiant ac addysgwyr athrawon i gasglu gwahanol brofiadau addysgol. Archwiliwyd sut y gellid cefnogi plant i gymryd rhan mewn penderfyniadau yn y dosbarth o ddydd i ddydd a datblygu’r cwricwlwm.

Eu hargymhellion oedd:

  • Dylai prosesau achredu Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) sicrhau bod darparwyr AGA yn rhoi sylw i ddatblygu addysgegau ymhlith myfyrwyr AGA sy'n cefnogi pob plentyn yn gweithredu ei hawliau cyfranogol;
  • Mae darparwyr AGA yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth briodol am addysgeg a chynnwys a chyfleoedd yn yr ysgol i roi addysgeg gyfranogol ar waith;
  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod dysgu a chanllawiau proffesiynol ar gael i ddarparwyr AGA i ategu a/neu ail-lunio eu cwricwla i wneud y gorau o gyfranogiad plant yn yr ystafell ddosbarth;
  • Mae addysgwyr athrawon yn sicrhau eu bod yn wybodus ac yn hyderus wrth gefnogi myfyrwyr AGA i ddatblygu addysgeg gyfranogol, sy'n ymatebol i ddysgwyr yn yr ysgol, ac sy'n cefnogi gweithredu Cwricwlwm Cymru; a,
  • Dylai darparwyr AGA ac Estyn roi sylw i'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth sy'n nodi bod yn rhaid i athrawon geisio barn dysgwyr, gwrando arni a’i hystyried er mwyn eu cynnwys a'u hannog fel cyfranogwyr gweithredol yn eu dysgu eu hunain.

Meddai Cyd-Ymchwilydd ar gyfer y prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion Dr Jacky Tyrie, o'r Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod: “Gan adeiladu ar ein harolwg blaenorol o ddarparwyr AGA, fe wnaethom archwilio sut y gellir cefnogi cyfranogiad plant yn yr ystafell ddosbarth. Er bod y maes hwn yn aml yn cael ei anwybyddu, nododd yr ymchwil gyfleoedd clir mewn elfennau yn y brifysgol a’r ysgol, gyda goblygiadau ar gyfer dysgu proffesiynol addysgwyr athrawon.

“Gan fod cyfranogiad yn ganolog i Gwricwlwm Cymru, rydym yn gobeithio y bydd yr ymchwil hon yn helpu i ymgorffori hawliau cyfranogi plant mewn ymarfer pob dydd.”

Mae Prifysgol Abertawe yn un o nifer o sefydliadau sy'n cydweithredu ar y prosiect hwn, sy'n rhan o Raglen Ymchwil Addysg, ac yn ymuno â Phrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE), Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.

Darllenwch y brîff polisi llawn

Dysgwch fwy am y Prosiect Cyfranogiad Plant mewn Ysgolion

 

Rhannu'r stori