Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Jacky Tyrie

Dr Jacky Tyrie

Uwch-ddarlithydd, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

405A
Pedwerydd Llawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr Tyrie yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Plentyndod Cynnar ac yn gyfarwyddwr y rhaglen MA mewn Astudiaethau Plentyndod. Mae Jacky wedi gweithio ers 15 mlynedd fel darlithydd ac ymchwilydd ym maes addysg uwch, gan weithio ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe. Mae ymchwil Dr Tyrie yn archwilio plentyndod cynnar o safbwyntiau cymdeithasegol a daearyddol, gan ganolbwyntio ar ymchwil ynghylch hawliau plant a chydraddoldeb a chyfranogiad plant mewn lleoliadau gofal plentyndod cynnar ac addysg.

Mae Dr Tyrie yn arweinydd cenedlaethol ym maes hawliau plant ac mae hi'n cydlynu'r Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY). Mae'r rhwydwaith CREY yn dod ag academyddion, llunwyr polisi, sefydliadau anllywodraethol ac ymarferwyr ynghyd i rannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd. Mae Jacky wedi bod yn brif ymchwilydd ar nifer o brosiectau ymchwil sydd wedi'u hariannu. Mae ymchwil bresennol Jacky yn archwilio'r ffyrdd y mae hawliau dynol yn 'byw' mewn profiadau plant ifanc, ac yn fwy diweddar effaith COVID-19 ar blant ifanc a'u profiadau o'r pandemig. Mae hi wedi cyhoeddi erthyglau am hawliau mewn rhai o'r cyfnodolion canlynol: The International Journal of Children’s Rights, The British Journal of Sociology a Wales Journal of Education.

Rolau ymgynghorol ychwanegol:

  • Cydlynydd Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREY)
  • Ymddiriedolwr Chwarae Cymru
  • Aelod Cyswllt o'r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant
  • Aelod o Rwydwaith Ymchwil Plant (Cymru)
  • Aelod o'r Rhwydwaith Iechyd Mamau a Phlant (MatCHNet)

Meysydd Arbenigedd

  • Dealltwriaeth gymdeithasol-ddiwylliannol o blentyndod
  • Cymdeithaseg plentyndod
  • Plentyndod rhyngwladol
  • Hawliau plant ifanc
  • Cyfranogiad yn y blynyddoedd cynnar
  • Cydraddoldeb rhywiol yn y blynyddoedd cynnar
  • Ymchwil gyda phlant ifanc ac ar eu

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Chwarae yn y blynyddoedd cynnar

Hawliau plant

Diogelu yn y blynyddoedd cynnar

Polisi blynyddoedd cynnar

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn y blynyddoedd cynnar