Golwg o Gampws Singleton gan gynnwys Parc Singleton a’r traeth, gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o'r Athro Andrew James Davies

Yr Athro Andrew James Davies

Athro mewn Addysg, Education and Childhood Studies

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Andrew yn Athro mewn Addysg yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Ymarfer. Mae ganddo ddiddordebau ymchwil yn y meysydd arweinyddiaeth addysgol, recriwtio a chadw penaethiaid, effaith polisi addysgol ar ymarfer proffesiynol athrawon, ac addysg ddwyieithog yn y cyfnod ôl-orfodol.

Fe ddechreuodd Andrew ei yrfa academaidd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd. Cyn derbyn ei swydd ym Mhrifysgol Abertawe, roedd e’n Ddarllenydd Addysg yr Ysgol Addysg, Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n ymgymryd â nifer o rolau arweinyddol, gan gynnwys cyfnod fel Pennaeth yr Ysgol ac fel Chyfarwyddwr Ymchwil Athrofaol, yn cydlynu gweithgareddau ymchwil ar draws chwech adran academaidd.

Mae Andrew wedi gweithio yn y maes dysgu proffesiynol i athrawon ar lefel Feistr ers dros ddegawd. Ers 2018, mae e wedi bod yn aelod creiddiol o’r tîm a ddatblygodd, ac sydd bellach yn darparu, cynllun Meistr arloesol Llywodraeth Cymru, sef yr MA Addysg (Cymru).

Meysydd Arbenigedd

  • Polisi Addysg yng Nghymru
  • Arweinyddiaeth Addysgol
  • Recriwtio a Chadw Penaethiaid
  • Dysgu ac Ymarfer Proffesiynol Athrawon
  • Addysg Ôl-orfodol Gymraeg a Dwyieithog

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Andrew yn bennaf yn y maes Arweinyddiaeth Addysgol, a goruchwylio traethodau hir Meistr.

Prif Wobrau