Golygfa o do'r adeilad o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorwyd drysau adeilad cyntaf yr Athrofa Gwyddor Bywyd (ILS1) yn 2007 a chafodd ei alw'n un o drysorau Cymru oherwydd ei weledigaeth i ddatblygu ymchwil feddygol er budd iechyd, cyfoeth a llesiant pobl Cymru. Mae'r cyfleuster chwe llawr pwrpasol hwn ym mhen gorllewinol campws Singleton y Brifysgol yn werth £52 miliwn ac mae mewn lleoliad strategol rhwng yr Ysgol Feddygaeth ac Ysbyty Singleton.

Athrofa Gwyddor Bywyd 1

Golygfa o'r Athrofa Gwyddor Bywyd

Agorodd Athrofa Gwyddor Bywyd 1 yn 2007. Yn yr adeilad gosgeiddig hwn mae atriwm uchder llawn, ac mae'n defnyddio deunyddiau mewn ffordd greadigol i fanteisio i'r eithaf ar olau naturiol. Mae iddo chwe llawr, ac mae'n cynnwys labordai ymchwil arloesol, cyfleusterau hybu busnes pwrpasol i'n sefydliadau cleient a chaffi hamddenol ei naws lle y gall staff a myfyrwyr ryngweithio a rhannu syniadau. O ddydd i ddydd, bydd 200 o arbenigwyr ym maes ymchwil ac addysgu gwyddor feddygol, datblygu busnes a throsglwyddo technoleg yn gweithio yno.

Athrofa Gwyddor Bywyd 2

Mynediad ILS2

Mae Athrofa Gwyddor Bywyd 2 (ILS2) yn gartref i nifer o gyfleusterau ymchwil allweddol gan gynnwys y Ganolfan NanoIechyd, sef cyfleuster Ymchwil a Datblygu mynediad agored arbennig gwerth £22 miliwn ar gyfer datblygu gofal iechyd drwy ddefnyddio nanodechnoleg, Cyfleuster Ymchwil Glinigol ar y Cyd (JRCF) sy'n canolbwyntio ar driniaethau meddygol arloesol ar gyfer salwch cyffredin, Cyfleuster Delweddu Clinigol (CIF) arloesol sydd â chyfleusterau sganio MRI a CAT soffistigedig i gefnogi ymchwil delweddu meddygol a phrofion Oncoleg Glinigol.

Hefyd yn ein hadeilad ILS2 mae nifer o unedau ‘deori’, sy'n cynnig gofod i'w rentu i fusnesau newydd sy'n gweithio ym maes Gwyddor Bywyd.

Beth sy'n digwydd yn yr Athrofa Gwyddor Bywyd?

Rydw i’n Hyrwyddwr