Mae'r Cyfleuster Delweddu Clinigol yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Yr egwyddorion sy’n sylfaen i’r datblygiad yw ymchwil ac addysg feddygol ynghyd â gwell fuddion iechyd i'r boblogaeth. Prif rôl y Cyfleuster yw bod yn ganolfan ar gyfer hwyluso ymchwil glinigol sy'n cynnwys tri llinyn: ymchwil glinigol ar sail fferylliaeth ym maes oncoleg; cymhwysiad clinigol MRI; a datblygu llwybrau clinigol ar sail delweddu.

Mae'r Cyfleuster yn darparu mynediad at wasanaethau sganio MRI a CT, gan gynnwys delweddu niwrolegol, MSK, fasgwlaidd, y corff, cardiaidd a gynaecolegol ar gyfer cleifion dros 18 oed a ddarperir gan radiograffyddion sydd wedi cymhwyso gyda Chymdeithas y Radiograffyddion cymwysedig ac wedi'u cofrestru gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Gwasanaethau

Ein cyfleusterau a gwybodaeth ar gyfer cleifion

Menyw yn cynnal sgan

Ymchwil

Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am ymgymryd â phrosiect ymchwil gyda CIF

Myfyrwyr

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni trwy e-bost: CIFgroup@swansea.ac.uk

Ble i ddod o hyd i ni

map o leoliad Clinical Imaging facility

Cyfleuster Delweddu Clinigol

ILS 2, Llawr gwaelod

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

SA2 8PP