Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgymryd â phrosiect ymchwil gyda'r Cyfleuster Delweddu Clinigol, dylid cyfeirio pob ymholiad at sylw Mr Anthony Rees.

Cam 1 - Llwybr Cais

Mae angen cwblhau ffurflen gais prosiect gan fanylu ar yr astudiaeth a'i dychwelyd am drosolwg o'r prosiect. Diffinnir astudiaeth fel rhaglen waith y bydd angen mynediad at adnoddau'r Cyfleuster Delweddu Clinigol arni. Mae hyn yn cynnwys yr ystod lawn o weithgarwch, o astudiaethau peilot cychwynnol byr, i geisiadau grant mawr sy'n ceisio denu noddwyr mewnol a/neu allanol. Dylai cyhoeddiadau ar sail gwaith a wneir yn y Cyfleuster Delweddu Clinigol gynnwys cydnabyddiaeth briodol.

Bydd y categori o grwpiau o gyfranogwyr yn yr astudiaeth yn effeithio ar y llwybr mynediad i'r Cyfleuster Delweddu Clinigol. Os yw'r garfan yn gleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, bydd angen cysylltu â'r adran Ymchwil a Datblygu a byddant yn hwyluso cais y prosiect gydag IRAS a'r templed prosiect delweddu penodol sydd ar gael drwy Jemma Hughes. 

Cam 2 - Cyfarfod Dichonoldeb

Trefnir cyfarfod dichonoldeb i drafod y prosiect yn fanylach. Caiff y meysydd canlynol eu trafod yn y cyfarfod hwn:

  • moeseg
  • dethol a recriwtio cyfranogwyr
  • cynllunio arbrofion
  • meddalwedd a ddefnyddir
  • gweithrediad y prosiect
  • amserlenni cwblhau a chostau

Yn achos astudiaethau sy'n cynnwys cyfranogwyr dynol, bydd angen i'r Prif Ymchwilydd gyflwyno cais am Gymeradwyaeth Moeseg i'r gyfadran berthnasol neu i Bwyllgor Moeseg Ymchwil lleol y GIG. Ni fydd prosiect yn gallu dechrau heb gymeradwyaeth moeseg. Bydd angen anfon copi i'r Cyfleuster Delweddu Clinigol. Bydd angen i bob prosiect gael ei adolygu gan gymheiriaid, naill ai drwy'r Cydbwyllgor Gwyddonol yn y JCRF neu gan bwyllgor adolygiad cymheiriaid yn y gyfadran berthnasol. Bydd angen anfon copi i'r Cyfleuster Delweddu Clinigol. Os yw'r prosiect yn ymwneud â chyffur neu ddyfais, mae'n bosib y bydd angen cysylltu â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), sy'n gyfrifol am reoleiddio'r holl feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn y DU drwy sicrhau eu bod yn gweithio a'u bod yn bodloni safon diogelwch dderbyniol.

Cam 3 - Cychwyn y Prosiect

Pan fydd rhif prosiect wedi'i dderbyn, gall y prosiect ddechrau.  Rhaid archebu'r holl sesiynau o ddydd i ddydd ar y sganiwr drwy Grŵp y Cyfleuster Delweddu Clinigol ac mae angen cadarnhad o bob sesiwn.

Dylid derbyn cydsyniad cyfranogwyr a'u sgrinio am wrthrybuddion cyn yr apwyntiad.

Ystyriaethau eraill