Yn ôl astudiaeth newydd o bwys, gwnaeth y trawiad gan asteroid a arweiniodd at ddifodiant y deinosoriaid achosi gostyngiad bach yn unig mewn rhywogaethau siarcod a chathod môr, gan herio rhagdybiaethau hirsefydlog am hyd a lled ei effaith ar fywyd morol.
Dan arweiniad Dr Catalina Pimiento o Brifysgol Abertawe, defnyddiodd ymchwilwyr ddulliau AI uwch, ochr yn ochr â set ddata gynhwysfawr o ffosiliau, i olrhain amrywiaeth siarcod a chathod môr (nifer y rhywogaethau) dros y 145 miliwn o flynyddoedd diwethaf, gan chwalu sawl rhagdybiaeth hirsefydlog.
Dyma beth a ganfu'r ymchwilwyr:
- Roedd rhywogaethau eisoes wedi cyrraedd niferoedd sy’n debyg i lefelau modern yn ystod y cyfnod Cretasaidd, fwy na 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
- Achosodd effaith yr asteroid ostyngiad cymharol bach, sef tua 10 y cant yn rhywogaethau siarcod a chathod môr - sy'n wahanol iawn i'r difodiant torfol a fu hanes deinosoriaid nad oeddent yn adar a llawer o ysglyfaethwyr morol.
- Roedd nifer y rhywogaethau siarcod a chathod môr ar ei anterth yn ystod yr oes Ëosen ganol, sef tua 50 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan oedd y cefnforoedd yn gynefin i lawer mwy o rywogaethau nag sy'n bodoli heddiw.
- Ers eu hanterth, mae siarcod a chathod môr wedi colli mwy na 40 y cant o'u rhywogaethau, gan adael cefnforoedd heddiw yn llawer llai amrywiol.
Nid oedd dulliau blaenorol yn gallu canfod y patrymau hyn, ond daethant i'r amlwg o ganlyniad i ddulliau AI uwch sy'n cywiro'n benodol ar gyfer tueddiadau gofodol ac amserol yn y cofnod ffosiliau, yn ogystal â set ddata newydd o ffosiliau.
Mae Dr Pimiento o Adran y Biowyddorau Prifysgol Abertawe yn esbonio: "Aethon ni ati i greu set ddata newydd o enghreifftiau o ffosiliau siarcod a chathod môr gan ei churadu'n ofalus. Roedd hyn yn cynnwys adolygu cannoedd o astudiaethau, echdynnu data, ei wirio a datrys anghysondebau, gan arwain at synthesis byd-eang o enghreifftiau o ffosiliau yn cwmpasu'r 145 o filiynau o flynyddoedd diwethaf."
Meddai cyd-awdur yr astudiaeth, Dr Daniele Silvestro o ETH Zurich: "Yna gwnaethon ni ddefnyddio dull AI newydd sy'n llawer gwell am adnabod a chywiro natur anghyson ac anghyflawn y cofnod ffosiliau. Roedd dulliau blaenorol yn gallu cyfrif am wahaniaethau cyffredinol mewn samplu, ond nid y ffaith bod y gwaith o gasglu ffosiliau'n anghyson ar draws rhanbarthau daearyddol neu rywogaethau. Gall ein model ni ddysgu'r patrymau hyn - er enghraifft, nodi pan fo nifer llai o ffosiliau mewn rhanbarth penodol yn gallu adlewyrchu samplu cyfyngedig yn hytrach na dirywiad biolegol go iawn."
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddir yn Current Biology hefyd yn gosod yr argyfwng cadwraeth modern a wynebir gan siarcod a chathod môr mewn cyd-destun esblygiadol dyfnach.
Ychwanegodd Dr Pimiento: "Mae siarcod a chathod môr heddiw yn oroeswyr hanes hir o newid, gan gynnwys digwyddiadau difodiant nad ydynt wedi bod yn amlwg yn y cofnod ffosiliau tan yn ddiweddar. Am y 40 i 50 miliwn o flynyddoedd diwethaf, mae eu hamrywiaeth wedi bod yn gostwng.
"Mae'r gostyngiad tymor hir hwnnw yn bwysig heddiw am ei fod yn awgrymu bod siarcod a chathod môr eisoes yn dechrau o waelodlin is. Mewn geiriau eraill, yn ogystal ag wynebu pwysau gan weithgarwch dynol, megis gorbysgota a newid hinsawdd, fel grŵp iach sy'n ffynnu, - maen nhw eisoes wedi colli llawer o botensial esblygiadol dros ddegau o filiynau o flynyddoedd. Mae deall eu gorffennol yn ein helpu i weld pa mor bwysig yw diogelu'r rhywogaethau sy'n dal i fod gyda ni heddiw."
Darllenwch ‘Deep learning reveals the hidden patterns of shark and ray diversity over the past 145 million years’ yn llawn.