Mae llyfr arloesol newydd a arweinir gan academydd o Brifysgol Abertawe yn cynnig safbwynt ffres ar ddementia drwy herio un o'r tybiaethau mwyaf cyfarwydd ynghylch y cyflwr: hynny yw, mai colli cof yw'r symptom cynharaf a mwyaf diffiniol bob tro.
A New Approach to Dementia: Examining Attention Impairment gan yr Athro Andrea Tales o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ochr yn ochr â chydweithwyr a chyn-fyfyrwyr, yw un o'r llyfrau cyntaf i roi amhariadau ar sylw - yn hytrach na chamweithredu'r meddwl - wrth wraidd deall y syndrom.
Gan ddefnyddio casgliad o ymchwil sy'n ehangu, mae'r awduron yn amlygu bod newidiadau o ran sylw yn gyffredin ymhlith ffurfiau gwahanol o ddementia, a gall y newidiadau hyn ddod i'r amlwg yn gynt na phroblemau gyda chof. Maen nhw'n dadlau y gall adnabod y newidiadau hyn gynorthwyo wrth nodi'r cyflwr yn gynt, cael diagnosis mwy cywir, a gofal gwell ar gyfer y rhai hynny yr effeithir arnynt.
Dywedodd yr Athro Tales, Cadair Bersonol mewn Niwroseicoleg ac Ymchwil Dementia: "Mae gweithio gyda myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wedi bod yn fraint ac mae bob tro'n brofiad pleserus. Mae'r llyfr hwn yn adeiladu ar ein cyfrol gyntaf, a wnaeth archwilio newidiadau synhwyraidd a chanfyddiadol, a chafodd ei gynhyrchu ar y cyd â phobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr. Rwy'n falch bod ein hymagwedd gydweithredol yn parhau i ddatblygu, gan ein helpu i daflu goleuni ar agweddau o ddementia sy'n aml yn cael eu hanwybyddu."
Mae'r llyfr yn cwmpasu damcaniaeth sylfaenol, ymarfer clinigol a phrofiad personol. Mae'n archwilio sut mae sylw a gweithrediad goruchwyliol yn rhyngweithio, sut mae prosesau awtomatig a phrosesau wedi'u rheoli yn newid gyda dementia, a pham mae llwybrau diagnostig presennol - sy'n dibynnu llawer ar brofi'r cof - yn aml yn colli symptomau cynnar sy'n ymwneud â sylw.
Mae'r awduron hefyd yn archwilio'r her o ddiffinio "sylw", gan ddefnyddio syniadau clasurol, iaith bob dydd, a gwyddor gwybyddiaeth fodern.
Mae pennod sydd wedi'i hysgrifennu o safbwynt gofalwr yn cyflwyno’r cysyniadau hyn i fywyd pob dydd, ac mae pennod arall yn cyflwyno damcaniaeth adfer sylw a'r potensial sydd gan amgylcheddau naturiol i leihau gorlwyth sylwol.
Yn ogystal â'i gyfraniad gwyddonol, mae'r llyfr yn enghraifft nodedig o gydweithredu academaidd. Mae'r llyfr, a luniwyd gan yr Athro Tales, yn dod â chydweithwyr a chyn-fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol sy'n parhau i gydweithio'n agos ar ôl cwblhau eu hastudiaethau yn Abertawe ynghyd.
Mae'r grŵp wedi ymrwymo i gynhyrchu cyfres o lyfrau sydd wedi'u dylunio i wella'r maes gan roi profiad gwerthfawr i ymchwilwyr gyrfa gynnar o gyhoeddi y tu hwnt i erthyglau mewn cyfnodolion a chyfleu ymchwil i gynulleidfaoedd ehangach. Mae trydedd gyfrol, sy'n canolbwyntio ar dechnoleg a dementia, eisoes yn cael ei datblygu.
Dywedodd y cyd-awdur, Dr Clive Thomas, sy'n Rheolwr Rhaglen ar gyfer y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn adran Perfformiad a Gwella GIG Cymru: "Mae gweithio gyda'r Athro Andrea Tales ers fy noethuriaeth broffesiynol wedi bod yn brofiad amhrisiadwy. Gwnaeth ei dealltwriaeth o'r tensiynau rhwng ymarfer clinigol ac ymholi academaidd fy helpu i weld pam mae angen i wasanaethau asesu confensiynol sy'n canolbwyntio ar gof esblygu.
"Mae ein cydweithrediad wedi parhau dros nifer o flynyddoedd, wedi'i ysgogi gan gred a rennir bod angen newid yn y system, a bod angen archwilio agweddau ar ddementia nad ydynt wedi cael eu harchwilio'n ddigonol. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y gyfres hon o lyfrau a hefyd at waith parhaus gydag Andrea a'r tîm ym Mhrifysgol Abertawe."
Mae'r llyfr, sydd wedi'i gyhoeddi gan Taylor & Francis, ar gael nawr.