Pavan Kumar Sriram (Chwith) a Vida Adutwumwaa Boateng (Dde) yn derbyn eu gwobrau. Credyd: Cyngor Prydeinig.

Mae cyflawniadau Vida (Dde), ynghyd â rhai Pavan (Chwith), yn amlygu pŵer trawsnewidiol addysg ac ymrwymiad Prifysgol Abertawe i feithrin arweinwyr sy'n ysgogi newid cadarnhaol. Credyd: Cyngor Prydeinig.

Mae dau o raddedigion Prifysgol Abertawe wedi cael eu hanrhydeddu yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK 2026 y Cyngor Prydeinig, gan ennill cydnabyddiaeth genedlaethol yn India a Ghana am eu harweinyddiaeth a'u cyfraniadau at effaith gymdeithasol, diwylliant a chreadigrwydd.

Mae Gwobrau Cyn-fyfyrwyr Study UK yn dathlu graddedigion rhyngwladol prifysgolion y DU sy'n dylanwadu ar newid cadarnhaol yn eu meysydd a'u cymunedau ledled y byd.

Yn India, mae Pavan Kumar Sriram wedi'i enwi fel enillydd y Wobr Gweithredu Cymdeithasol am ei waith fel sbardunwr newid byd-eang.

Ar ôl goresgyn adfyd sylweddol yn gynnar yn ei fywyd, enillodd Pavan ysgoloriaeth Erasmus Mundus, a wnaeth ei alluogi i astudio ym Mhrifysgol Abertawe, a graddiodd yn 2010 â gradd Meistr mewn Mecaneg Gyfrifiadol. Roedd y profiad hwn yn gymorth iddo feithrin hyder a chadarnhau ei bwrpas, wrth iddo fynd ymlaen i sefydlu Kohort.

Bellach, mae'n un o blatfformau mwyaf y byd ar gyfer ysgoloriaethau a chyfleoedd academaidd, a hyd yn hyn mae wedi cyrraedd 600,000 o fyfyrwyr ac wedi helpu 1,100 o ddysgwyr i sicrhau ysgoloriaethau gwerth £28 miliwn.

Yn hwyrach, sefydlodd The Growth Collective, symudiad sy'n ymroddedig i feithrin ymdeimlad o berthyn i bobl ifanc gwiar yn India. Ar ôl blwyddyn yn unig, mae'r fenter wedi cyrraedd 2,300 o bobl ifanc ac wedi hyfforddi 20 o ddarpar sbardunwyr newid.

Meddai Pavan: "Mae'r gydnabyddiaeth hon yn teimlo fel moment cylch cyfan. Dechreuodd fy nhaith ym Mhrifysgol Abertawe, lle dysgais y gall addysg fod yn offeryn pwerus i ddylunio systemau mwy teg - sy'n cynnwys gwerthoedd chwilfrydedd, tegwch a chynhwysiant sy'n parhau i lywio popeth rwy'n ei adeiladu heddiw."

Yr ail unigolyn i gael cydnabyddiaeth ryngwladol gan Abertawe eleni yw Vida Adutwumwaa Boateng, a gafodd ei hanrhydeddu yn Ghana â'r Wobr Diwylliant, Creadigrwydd a Chwaraeon.

Ar ôl cwblhau ei gradd meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn 2014, defnyddiodd Vida ei sylfaen mewn diplomyddiaeth ddiwylliannol i herio diwylliant yr ystafell newyddion, lle mae dynion wedi bod yn fwy blaenllaw yn draddodiadol, ac i eirioli am gydnabyddiaeth fwy cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau.

Mae ei gwaith fel newyddiadurwr, arbenigwr cysylltiadau cyhoeddus a dadansoddwr y celfyddydau creadigol wedi dylanwadu ar sgyrsiau polisi ar draws Ghana, ac wedi ennill Gwobr Genedlaethol Sylwebydd y Flwyddyn iddi yn 2022 am ysgogi ymgysylltiad gwleidyddol gyda dros 300 o weithwyr creadigol.

Fel llefarydd dros Wobrau Cerddoriaeth Ghana yn Ewrop, mae hi wedi ehangu gwelededd byd-eang i dros 100 o artistiaid, ac mae ei gwaith fel Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus yn Burniton Music Group wedi cefnogi datblygu talent newydd ar draws y diwydiant.

Y tu hwnt i'r cyfryngau, mae Vida wedi gweithio gyda KPN INSPIRES - sy'n rhan o Rwydwaith Gweithwyr Proffesiynol Kwahu - i rymuso dros 100,000 o fyfyrwyr drwy deithiau ysgol cenedlaethol sy'n mynd i'r afael â thuedd o ran rhywedd ac yn cefnogi gwaith datblygu talent. Ar ôl ymuno â'r Network of Women in Broadcasting (NOWIB) yn 2025, ei nod yw helpu i gwrdd â 200,000 o ferched erbyn diwedd y flwyddyn.

Meddai Vida: "Rwy'n cydnabod bod gwybodaeth yn bŵer, ond pan fyddwch yn graddio o Brifysgol Abertawe, mae'r dywediad yn newid, ac mae'n troi'n 'gwybodaeth yn bŵer trawsnewidiol' oherwydd bod Prifysgol Abertawe yn eich trawsnewid ac yn eich rhoi ar lwybr i barhau'n unigryw ac yn berthnasol yn eich maes gwaith. Mae'r wobr hon yn adlewyrchiad pur o hyn, a'm gwaith caled yn y diwydiant."

Mae cyflawniadau Vida, ynghyd â rhai Pavan, yn amlygu pŵer trawsnewidiol addysg ac ymrwymiad Prifysgol Abertawe i feithrin arweinwyr sy'n ysgogi newid cadarnhaol.

Meddai'r Athro Deborah Youngs, Dirprwy Is-ganghellor Addysg Prifysgol Abertawe: "Rydw i'n hapus iawn dros Pavan a Vida. Rydym yn falch iawn ohonynt, a phopeth maen nhw wedi'i gyflawni, ac mae'n bleser gennyf eu gweld yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol. Mae'r gwobrau hyn yn dyst i'w talent, eu gwaith caled a'u huchelgais, ac yn amlygu pŵer trawsnewidiol addysg a'i heffaith gadarnhaol ar gymdeithas a diwylliant."

Dysgwch fwy am Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol a Mecanyddol.

Dysgwch fwy am Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol.

Rhannu'r stori