Amlygwyd pwysigrwydd dysgu ieithoedd yn ystod dathliad deuddydd ym Mhrifysgol Abertawe'n ddiweddar.
Cynhaliodd tîm Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Prifysgol Abertawe Ŵyl Ieithoedd, gan groesawu bron 300 o ddisgyblion o 13 o ysgolion ar draws de-orllewin Cymru sy'n astudio Ffrangeg, Almaeneg a/neu Sbaeneg ym mlynyddoedd 11 i 13.
Fe'i hagorwyd yn swyddogol gan Arglwydd Faer Abertawe, ac roedd y digwyddiad yn cynnwys dosbarthiadau meistr, sesiynau rhagflas a thrafodaeth banel gyda myfyrwyr presennol, graddedigion iaith a gweithwyr iaith proffesiynol o Brifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd.
Y diwrnod canlynol, ymwelodd Llysgennad yr Almaen yn y DU, Susanne Baumann, â Champws Parc Singleton y brifysgol gan gwrdd ag Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Yna cymerodd ran mewn trafodaeth gyda myfyrwyr israddedig, ôl-raddedig a PhD o'r adrannau Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd, Hanes, Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth, gan drafod geowleidyddiaeth, gyrfaoedd mewn diplomyddiaeth, cysylltiadau rhwng y DU a'r Almaen ac addysg ieithoedd.
Roedd Conswl Anrhydeddus yr Almaen a'r Swistir yng Nghymru, Ms Marlies Hoecherl, a Ms Irina Speck, Pennaeth Adran Materion Economaidd, Ynni a Materion Byd-eang yn Llysgenhadaeth yr Almaen yn Llundain hefyd yn bresennol.
Meddai Llysgennad yr Almaen yn y DU, Susanne Baumann: "Rwy'n llawn ysbrydoliaeth am yr addysgu Almaeneg rhagorol ym Mhrifysgol Abertawe. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad y darlithwyr a’r myfyrwyr yn dangos pa mor fywiog y mae astudiaethau Almaenig a pham y mae Almaeneg yn dal i fod yn ddewis rhagorol i'w hastudio mewn prifysgolion ar draws y DU.
Mae ieithoedd yn offeryn allweddol ar gyfer cyfathrebu a chydweithredu, sy'n bwysicach nag erioed mewn cyfnod o gynnwrf byd-eang dwys.
"Mae Cytuniad Kensington, y cytuniad cyfeillgarwch newydd rhwng y DU a’r Almaen, yn adlewyrchu bod ein cysylltiadau'n agosach nag erioed. Ond nid yw cytuniadau ar eu pennau eu hunain yn creu partneriaethau cryf - pobl sy'n gwneud hynny. Cefais y pleser o gwrdd â llawer o'r bobl hynny heddiw ym Mhrifysgol Abertawe, myfyrwyr llawn ysgogiad ac athrawon angerddol sy'n dangos pa mor ysgogol a buddiol y gall dysgu iaith fod".
Meddai Christiane Günther, Uwch-ddarlithydd Almaeneg ym Mhrifysgol Abertawe: Roedd hi'n bleser croesawu'r Llysgennad a'i grŵp i Brifysgol Abertawe. Cefais fy mhlesio'n fawr gan y cwestiynau ystyriol a gwybodus a ofynnodd ein myfyrwyr i'r panel.
"Roedd yn galondid clywed pwyslais mor gryf ar bwysigrwydd siarad amryw o ieithoedd. Rwy'n hynod falch ein bod yn cynnig Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yma yn Abertawe fel ein hieithoedd craidd, ynghyd â darpariaeth ychwanegol sef Catalaneg, Eidaleg, Mandarin Tsieineeg a Phortiwgaleg. Mae'r ddarpariaeth ieithyddol gyfoethog hon yn rhoi sylfaen ragorol i'n myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol fel gweithwyr proffesiynol amlieithog".