Adeilad Ysgol Reoli Prifysgol Abertawe ar Ganolfan Bae.

Mae Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth â chwmni ymgynghoriaeth yn y DU Libra Europe i gyflwyno 2026 Diseño Argentino Exponencial — Creative Bootcamp, rhaglen entrepreneuriaeth ryngwladol sy'n cefnogi darpar entrepreneuriaid ar draws sectorau dylunio a chreadigol yr Ariannin.

Wedi'i gyd-greu gan Fundación Bunge y Born a'r British Council, mae'r bŵtcamp yn dod â phymtheg darpar entrepreneur ynghyd am raglen hybrid dros chwe mis sy'n canolbwyntio ar arloesedd, datrys problemau mewn ffordd greadigol a thwf busnes cynaliadwy.

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, mae'r fenter yn rhan o ymdrech ehangach i gryfhau cydweithio rhwng yr Ariannin a'r DU yn yr economi greadigol.

Gan adeiladu ar y genhadaeth hon, mae rhifyn 2026 yn cyflwyno modiwlau newydd sy'n adlewyrchu anghenion datblygol y diwydiant, gan gynnwys:

  • Deallusrwydd artiffisial o ran prosesau creadigol a rheoli
  • Marchnata ar gyfer gwerthiannau
  • Prisiau

Bydd cyfranogwyr yn archwilio sut gall technolegau digidol gyflymu datblygiad cynnyrch a chefnogi gwneud penderfyniadau ar sail data mewn marchnadoedd sy'n newid yn gyflym.

Gan ddefnyddio arbenigedd yr Ysgol Reolaeth mewn arloesi ac entrepreneuriaeth a gallu Libra Europe i gysylltu technoleg ag arfer gweithredol, mae'r rhaglen yn cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu modelau busnes cynaliadwy ar raddfa ehangach drwy gyfuniad o ddosbarthiadau meistr, gweithdai ymarferol a mentora.

Meddai'r Athro Andrew Thomas, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth: “Rwyf wrth fy modd bod yr Ysgol Reolaeth yn cael y cyfle i weithio gyda phartneriaid ar Argentine Exponential Design – Creative Bootcamp 2026, ac rydym yn gyffrous i gael cefnogi gwaith creadigol ac arloesol entrepreneuriaid”

Mae'r bŵtcamp ar gyfer entrepreneuriaid sy'n gweithio yn y sectorau a arweinir gan ddylunio megis:

  • Dylunio diwydiannol a chynnyrch
  • Dillad, nwyddau ac ategolion lledr
  • Datblygu bioddeunyddiau
  • Crefftau cyfoes
  • Cynnyrch tecstilau

Yn ogystal â hyfforddiant sy'n benodol i'r sector, bydd cyfranogwyr yn ymuno â rhwydwaith rhyngwladol cynyddol o weithwyr proffesiynol creadigol, ac yn cael mynediad at gyfleoedd i gydweithio ac ennill gwybodaeth arbenigol.

Ychwanegodd Rob Baldwin, Cyfarwyddwr Atebion Libra Europe: "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda British Council yr Ariannin a Phrifysgol Abertawe i gyflwyno bŵtcamp DAE Creative 2026. Rydym yn cefnogi busnesau creadigol drwy weithdai cymhwysol a chydweithio rhyngwladol".

Drwy gyfuno arbenigedd rhyngwladol â dealltwriaeth leol ddofn, mae'r bartneriaeth yn adlewyrchu ymrwymiad a rennir at feithrin arlosedd, ehangu cyfleoedd a grymuso'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid o'r Ariannin i ffynnu mewn economi fyd-eang a arweinir yn fwyfwy gan dechnoleg.

Gallwch gyflwyno ceisiadau ar gyfer Diseño Argentino Exponencial — Creative Bootcamp 2026 yn awr a bydd yn cau ddydd Gwener 27 Mawrth.

Gall entrepreneuriaid cymwys gyflwyno cais drwy wefan y rhaglen.

Dysgwch fwy am yr Ysgol Reolaeth.

Rhannu'r stori