Grŵp o ferched ysgol yn eistedd wrth ddesgiau mewn ystafell ddosbarth

Llun: Pexels

Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi mapio tystiolaeth ryngwladol ar ganlyniadau plant sy'n cael eu magu mewn gofal y tu allan i'r cartref.

Gan ddefnyddio 77 o adolygiadau, a gyhoeddwyd rhwng mis Ionawr 2013 a mis Gorffennaf 2024, mae'r ymchwil yn dangos pa feysydd o fywydau'r plant sy'n cael eu cofnodi'n fanwl a lle mae bylchau sylweddol yn parhau yn y dystiolaeth fyd-eang.

Wedi'i hariannu gan Raglen Ymchwil Cyflawni Iechyd a Gofal Cymdeithasol NIHR, cafodd yr astudiaeth ei chyflwyno fel rhan o brosiect ehangach CARELINK Cymru.

Er bod iechyd meddwl, ymddygiad a phrofiadau ar leoliad yn cael lle blaenllaw yn y dystiolaeth, mae llawer llai o wybodaeth am y canlyniadau sy'n gysylltiedig â hunaniaeth, bwlio, marwolaethau a phrosesau addysg gynnar. Prin iawn y cafodd dylanwadau cymunedol megis ysgolion a chymunedau eu harchwilio.

Mae goblygiadau  go iawn oherwydd y diffyg data hwn. Mae plant mewn gofal yn parhau'n grŵp penodol sy'n agored i niwed gydag anghenion cymhleth yn dechrau o brofiadau plentyndod andwyol, megis cam-drin ac esgeulustod, ac anfanteision systemig. Heb ddarlun llawn o'u bywydau cymdeithasol a dinesig, mae risg y bydd penderfyniadau polisi'n canolbwyntio ar symptomau clinigol yn hytrach na'r ffactorau sy'n helpu person ifanc i integreiddio a ffynnu yn eu cymuned.

Mae'r adolygiad o bapurau, a gyhoeddwyd yn PLOS One, yn darparu trosolwg mawr ei angen o'r dystiolaeth ddarniog gan helpu llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr i ddeall lle mae gwybodaeth yn gryf a lle mae angen ymchwil pellach. 

Meddai Richmond Opoku, prif awdur ac ymchwilydd ym Mhrifysgol Abertawe: "Mae cynnal gwaith ymchwil i blant mewn gofal wedi tyfu'n sylweddol, ond mae'n parhau'n ddarniog. Trwy fapio'r dystiolaeth hon, gallwn weld yn union yr hyn sydd ar goll - yn benodol gwybodaeth am hunaniaeth, cyfranogiad, a dylanwadau'r gymuned ehangach sy'n hanfodol ar gyfer dyfodol hir dymor plentyn."

Ychwanegodd Dr Tash Kennedy, yr uwch awdur: "I gefnogi plant mewn gofal yn llwyr, rydym angen cael darlun llawn o'u bywydau, o'u hymdeimlad o hunaniaeth i sut maen nhw'n cyfranogi yn eu cymunedau. Trwy gasglu'r data o safon hwn, gallwn adeiladu'r  dystiolaeth sydd ei hangen i wella polisi ac ymarfer hirdymor."

Dan arweiniad HDR UK Cymru, mae CARELINK Cymru yn dod ag ymchwilwyr blaenllaw ynghyd o Brifysgol Abertawe, Prifysgol Bangor, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd, a Phrifysgol Manceinion. Cefnogir y bartneriaeth gan ADR Cymru a’r Ganolfan Iechyd Poblogaethau.

I sicrhau bod y canfyddiadau'n mynd i'r afael â blaenoriaethau’r byd go iawn, gweithiodd yr ymchwilwyr ochr yn ochr â rhieni a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o'r grŵp ymgynghorol CASCADE Voices i ddylanwadu ar yr astudiaeth a dehongli'r canlyniadau.

Darllenwch y cyhoeddiad 

 

Rhannu'r stori