Llun: Matthew Horwood Photography
Mae arbenigwyr gwleidyddol ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio gwefan arloesol newydd sy'n dod â chyffro chwaraeon ffantasi i ragfynegi gwleidyddol, gan gynnig ffordd newydd a rhyngweithiol i bobl ymwneud ag etholiad 2026 y Senedd.
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer yr hyn a allai fod yn newid sylweddol yn ei thirwedd wleidyddol, mae'r platfform dwyieithog newydd yn gwahodd defnyddwyr o bob rhan o Gymru a'r tu hwnt i gymryd rhan mewn cynghrair ragfynegi.
Gall cyfranogwyr ragfynegi cyfrannau pleidiau o'r seddau, clymbleidiau posib a chanlyniadau cyffredinol yr etholiad, gan gystadlu ag eraill wrth fonitro sut mae eu rhagolygon yn perfformio dros amser. Mae'r platfform hwn am ddim ac ar agor i bawb. Mae’n cyfuno rhagfynegiadau torfol, amser go iawn, i ddarparu ffordd newydd o ddilyn yr etholiad wrth i ddigwyddiadau fynd rhagddynt.
Bydd yr etholiad ar 7 Mai yn nodi'r newid mwyaf i'r Senedd mewn 25 o flynyddoedd. Bydd system bleidleisio newydd yn cael ei chyflwyno, bydd nifer yr Aelodau o’r Senedd yn cynyddu o 60 i 95 a chaiff etholaethau newydd eu creu. Gyda'i gilydd, disgwylir i'r newidiadau hyn ail-lunio gwleidyddiaeth yng Nghymru mewn ffyrdd y mae'n anodd eu rhagweld.
Meddai'r Athro Matt Wall, arbenigwr blaenllaw ym meysydd dynameg ymgyrchu etholiadol a gwleidyddiaeth ar-lein, sy'n un o gyd-sylfaenwyr Horse Race Politics: "Disgwylir mai etholiad 2026 y Senedd fydd yr un mwyaf arwyddocaol yn wleidyddol yn oes datganoli - mae'n adeg bwysig i ddemocratiaeth yng Nghymru. Gyda rheolau newydd, mwy o Aelodau ac etholaethau newydd, gallai pleidlais mis Mai drawsnewid y dirwedd wleidyddol.
"Mae Horse Race Politics yn troi'r cymhlethdod hwnnw yn rhywbeth diddorol a hygyrch. Does dim gwahaniaeth os ydych chi'n darllen y newyddion yn achlysurol, neu'n hen law ar ddadansoddi gwleidyddiaeth, gallwch gymryd rhan, datblygu eich dealltwriaeth a chael hwyl ar yr un pryd. Ein nod yw gwneud etholiad 2026 y Senedd yn fwy hygyrch, diddorol a dealladwy i bawb.
Ochr yn ochr ag offer rhagfynegi, mae'r platfform yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion cymdeithasol a dysgu. Ar ôl cofrestru, gall defnyddwyr rannu newyddion, ymuno â fforymau trafod a phrofi eu gwybodaeth gyda chwis dyddiol ar wleidyddiaeth yng Nghymru. Mae'r wefan hefyd yn darparu mynediad at sylwebaeth gan arbenigwyr drwy bodlediad a blog pwrpasol, gan helpu defnyddwyr i archwilio'r materion a'r tueddiadau sy'n llywio'r ymgyrch.
Meddai Dr Louis Bromfield, cyd-sylfaenydd a phrif ddatblygwr y platfform: "Drwy gemio rhagfynegi gwleidyddol, wrth gynnal trylwyredd academaidd, rydyn ni'n creu ffordd newydd i bobl gymryd rhan mewn democratiaeth, gan wneud rhagfynegi yn brofiad mwy anffurfiol a difyr. Gall defnyddwyr ddysgu am brosesau etholiadol a chysylltu ag eraill sy'n rhannu diddordeb yng ngwleidyddiaeth Cymru. Rydyn ni wedi cael ein hysbrydoli gan boblogrwydd cynghreiriau chwaraeon ffantasi sy'n rhoi i chwaraewyr ffordd fwy ystyrlon o ddilyn eu hoff chwaraeon, yn hytrach na'u gwylio yn unig.
"Mae Horse Race yn ceisio gwneud yr un peth ar gyfer gwleidyddiaeth, gan roi cyfle i ddefnyddwyr ragfynegi canlyniadau amrywiol, ennill pwyntiau a thlysau, dringo byrddau arweinwyr a mwy. Rydyn ni'n darparu hyn heb y risg ariannol sy'n cael ei chynnig gan gystadleuwyr, achos gall pobl chwarae Horse Race Politics yn rhad ac am ddim.
Ariennir y prosiect gan Ymchwil ac Arloesi y DU fel rhan o Astudiaeth Etholiad 2026 Cymru, rhaglen ymchwil pedair blynedd a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru. Mae'r astudiaeth yn darparu data diduedd, o ansawdd uchel, o arolygon am agweddau gwleidyddol ac ymddygiad pleidleisio yng Nghymru, gan gynnig dealltwriaeth werthfawr o sut a pham mae pobl yn pleidleisio.