Mae £1m wedi cael ei ddyfarnu i wyddonydd ym Mhrifysgol Abertawe i arwain tîm ymchwil newydd sy'n ymchwilio i ddisgyrchiant gwrthfater.
Dewiswyd Dr Christopher Baker o'r Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i gael Dyfarniad Arweinyddiaeth Ymchwil o fri, sy'n cael ei roi i ysgolheigion gyrfa gynnar dawnus i'w galluogi i greu tîm i'w helpu i fynd i'r afael â phroblem ymchwil arbennig.
Nod y cynllun yw creu cyfle iddynt ddangos arweinyddiaeth, drwy gefnogi datblygiad a sgiliau rheoli prosiect eu grŵp, gan hwyluso ymchwil a allai newid y dirwedd sefydledig yn sylweddol mewn maes ymchwil penodol.nig, felly dyma un o raglenni uchaf eu bri yr Ymddiriedolaeth a chydnabyddir yn eang bod cael eich dewis amdani'n arwydd o ragoriaeth ymchwil a photensial arweinyddiaeth neilltuol.
Dyfarnwyd £952,434 i Dr Baker a bydd yn defnyddio'r arian i dalu cyflogau staff a chostau cysylltiedig ar gyfer ei brosiect i archwilio defnydd trawsnewidiol o atsain sbin hydrogen i astudio disgyrchiant gwrthfater.
Meddai: "Mae ein dealltwriaeth o'r bydysawd yn anghyflawn ac mae angen ffiseg newydd i esbonio pam y mae'n ymddangos fel y mae. Fel aelod o'r Cydweithrediad ALPHA rhyngwladol sy'n cyfrif Prifysgol Abertawe'n ymhlith ei brif gefnogwyr, dwi wedi astudio sylwedd anodd dod o hyd iddo o'r enw gwrthfater o'r blaen.
"Byddai unrhyw wahaniaethau rhyngddo a'r mater 'normal' sy'n ffurfio ein byd pob dydd yn dangos y ffordd at y ffiseg newydd. Mae'r profion hyn yn cael eu cynnal fel arfer drwy brocio'r atomau gwrthfater â laserau, ond mae astudiaethau diweddar wedi dechrau astudio sut mae disgyrchiant y Ddaear yn effeithio ar atomau gwrthfater, ac mae angen offer hollol wahanol ar gyfer hyn.
"Fel aelod o Labordy Dynameg Arwynebau Abertawe ar hyn o bryd dwi'n dyfeisio dulliau newydd i reoli moleciwlau ar y lefel gwantwm ac astudio ffenomena cynnil iawn ar arwynebau deunyddiau.
"Bydd fy Nyfarniad Arweinyddiaeth Ymchwil Leverhulme yn rhoi cyfle i mi estyn yr ymchwil hon, cyfuno'r ddau faes gwyddonol a gosod y sylfeini ar gyfer datblygu dull hollol newydd o astudio gwrthfater a disgyrchiant mewn ffordd arloesol newydd."
Darllenwch ragor am yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol