Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi gael gyrfa ym myd dynameg busnes sy'n cael ei lywio gan ddata? Mae sefydliadau mawr yn defnyddio data a dadansoddeg i lywio eu penderfyniadau strategol a gweithredol. Mae galw mawr am ddadansoddwyr medrus iawn ym mhob math o sectorau, o gyllid, addysg, fferylliaeth a llywodraeth ac mae cyfleoedd i weithio ledled y byd.
Bydd y radd MSc Rheoli (Dadansoddeg Fusnes) ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i chi feithrin dealltwriaeth drylwyr o sut mae data’n cael ei ddefnyddio yn y byd corfforaethol, o'r data y tu ôl i'r rhyngrwyd i reoli logisteg gyflenwi'n fyd-eang. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar eich paratoi ar gyfer gyrfa yn oes ‘data mawr’.
Mae'r rhaglen yn ymdrin â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU a sefydlwyd yn unswydd i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain ac mae ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Ar ôl i chi raddio, byddwch yn derbyn tystysgrif lefel 7 y CMI.
Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.