Sut gall gradd ôl-raddedig fod o fudd i'm gyrfa?

Mae gan astudiaethau ôl-raddedig lawer o fuddion, gan gynnwys:

  • Gwell Potensial ar Gyfer Cyflogaeth
    Mae dros 300,000 o fyfyrwyr yn graddio gyda gradd israddedig bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall gradd ôl-raddedig eich helpu i ddisgleirio ymhlith y dorf mewn marchnad swyddi sy'n fwyfwy cystadleuol a llawn
  • Datblygiad Gyrfa
    Gall cymhwyster ôl-raddedig eich arfogi â sgiliau a phrofiad y gallwch eu trosglwyddo i'r gweithle
  • Boddhad Deallusol
    Os ydych chi'n frwd dros faes pwnc penodol ac am ehangu'ch gwybodaeth, gallai gradd ôl-raddedig fod yn berffaith i chi
  • Newid Cyfeiriad
    Am newid maes pwnc ar ôl eich gradd israddedig? Gallai cwrs trosi o Brifysgol Abertawe eich helpu i newid cyfeiriad eich astudiaethau a/neu'ch gyrfa

Sut gall Prifysgol Abertawe fy helpu i?

O'r funud y byddwch yn cyrraedd Abertawe, bydd staff arbenigol Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn eich helpu i gynllunio'ch dyfodol ac i baratoi ar ei gyfer. Byddant yn eich helpu i nodi a datblygu'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch gradd ôl-raddedig, ac i ehangu'ch gorwelion gyrfa. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Cyngor Arbenigol
    Mynediad at gyngor a gwybodaeth ddiduedd am yrfaoedd gan Gynghorwyr Gyrfaoedd cymwys.
  • Cyfleoedd
    Dod o hyd i interniaethau, lleoliadau, swyddi rhan-amser, a chyfleoedd i raddedigion.
  • Cysylltiadau â Chyflogwyr
    Cysylltwch â chyflogwyr trwy ein ffeiriau gyrfaoedd, digwyddiadau cyflogwyr, a sesiynau hyfforddi/coetsio sgiliau.
  • Datblygu Sgiliau
    Datblygu eich CV, gwella eich sgiliau cyfweliad, a datblygu ymwybyddiaeth fasnachol/hunan.
  • Mentora
    Cysylltu â mentor o blith ein cyn-fyfyrwyr.

Mae llawer o'n cyrsiau ôl-raddedig wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol, gan sicrhau y caiff eich cymhwyster terfynol ei gydnabod gan gyflogwyr.