Mae'r dudalen hon yn amlinellu unrhyw newidiadau i’n rhaglenni ôl-raddedig. Mae'r dyddiad mewn cromfachau ar ddiwedd y frawddeg yn nodi pa bryd y gwnaed y newid.

2024 - Newidiadau i Raglenni

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

MA Llenyddiaeth Naratif Hynafol - wedi cael ei dynnu'n ôl ac nid oes modd bellach i wneud cais i'w astudio ym Medi 2024 na thu hwnt (Mawrth 2024).

MSc Rheolaeth Twristiaeth Ryngwladol - wedi cael ei atal ar gyfer mynediad yn 2024 (Chwefror 2024).

LLM Ymarfer y Gyfraith Proffesiynol - nid oedd y fersiwn rhan amser o'r rhaglen yma ar gael ers 2023, ac mae'r penderfyniad wedi ei wneud iddo beidio bod ar gael am 2024 ychwaith. Mae'r fersiwn llawn amser yn parhau i fod ar gael (Chwefror 2024).

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

MSc Niwrowyddoniaeth Wybyddol - mae'r rhaglen hon wedi cael ei hatal ac nid oes modd ymgeisio i'w hastudio ym mis Medi 2024 (Mawrth 2024).

2023 - Newidiadau i Raglenni

Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

EdD Addysg - nid yw bellach ar gael ac nid oes modd gwneud cais.

MA Y Clasuron - nid yw bellach ar gael.

MA Polisi Cyhoeddus (Estynedig) - nid yw bellach ar gael. 

PhD / MPhil Rwsieg - nid yw bellach ar gael ar gyfer ceisidau.

MFin Rheoli Ariannol Rhyngwladol - nid yw bellach ar gael. Sylwer nad yw hyn yn effeithio ar y fersiwn MSc o'r cwrs sydd yn parhau i fod ar gael.

MSc Rheoli (Technoleg Meddalwedd) - nid oes mynediad ar gael ar ôl Ionawr 2023.

MSc/PGDip Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid) - mae'r rhaglen yn newid ei theitl i MSc/PGDip Rheoli Uwch (Trawsnewid Iechyd ac Arloesedd) ar gyfer mynediad ym Medi 2024Noder nad yw hyn yn effeithio'r chwaer rhaglen MSc/PGDip Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Seiliedig ar Werth)

LLM Ymarfer y Gyfraith Proffesiynol - nid yw'r fersiwn rhan amser o'r rhaglen yma ar gael. Mae'r fersiwn llawn amser yn parhau i fod ar gael.

Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg 

MSc Cyfathrebiadau Peirianneg - nid yw bellach ar gael.

MSc Cyfrifiadureg - Mae pwynt mynediad mis Medi o'r rhaglen ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol newydd o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

MSc Cyfrifiadureg Uwch - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr yn 2024. Mae pwynt mynediad mis Medi o'r rhaglen ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol newydd o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

PhD Gwyddorau Biolegol mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cape Town - nid yw bellach ar gael. 

MSc Gwyddor Data - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr yn 2024. Mae pwynt mynediad mis Medi o'r rhaglen ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol newydd o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

MSc Nanowyddoniaeth i Nanodechnoleg - nid yw bellach ar gael.

MSc Rheoli Peirianneg Gynaliadwy ar gyfer Datblygu Rhyngwladol - nid yw ar gael am flwyddyn ac nid oes modd gwneud cais ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

MSc Seiberddiogelwch - nid yw ar gael ar gyfer mynediad mis Ionawr yn 2024. Mae pwynt mynediad mis Medi o'r rhaglen ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol newydd o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

MSc Technoleg a Chymwysiadau Lled-ddargludyddion - nid yw bellach ar gael ar gyfer ceisiadau.

MSc Technoleg Meddalwedd Uwch - Mae pwynt mynediad mis Medi o'r rhaglen ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol newydd o ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023.

Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

PGCert Gofal Newyddenedigol Lefel Uwch - nid yw bellach ar gael ar gyfer mynediad.

MSc Astudiaethau Cydymaith Meddygol - cyfundrefn enwau newydd gyda'r teitl: MPAS Astudiaethau Cydymaith Meddygol ar waith ar gyfer myfyrwyr newydd sy'n dechrau ym mis Medi 2023. Mae'r rhaglen hon hefyd wedi newid strwythur ei chynnwys.

MSc Gwybodeg Iechyd, Dysgu o Bell yn St John's Research Institute, Bangalore India - nid yw'r cwrs ar gael bellach.

MSc Rheoli Cyflyrau Hirdymor a Chronig - wedi newid teitl i MSc Gofal Lliniarol a Diwedd Oes o fis Medi 2023.

MSc Gofal Lliniarol a Diwedd Oes - wedi cael ei atal ac nid yw ar gael ar hyn o bryd.

PG Dip Trallwyso Cydrannau Gwaed - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym mis Ionawr.

MSc/PG Dip Ymarfer Gofal Iechyd - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym Medi 2023.

MSc/PG Dip Ymarfer Nyrsio - nid yw ar gael ar gyfer mynediad ym Medi 2023.