Bydd astudio yn yr Ysgol Peirianneg a Gwyddorau Cymhwysol yn eich paratoi chi ar gyfer gyrfa gyffrous a hynod werthfawr mewn amrywiaeth eang o ddiwydiannau. Bydd ein graddau yn eich galluogi i feithrin  yr wybodaeth, y sgiliau a'r meddylfryd arloesol i ganfod atebion i rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu pobl a'n planed.

Byddwch chi'n archwilio ein hegwyddorion a'n helfennau peirianneg a gwyddonol traddodiadol a modern i ddeall sut mae pethau'n gweithio, sut mae eu gwella, datrys problemau a datblygu technoleg sy'n torri tir newydd.

Byddwch yn cael profiad ymarferol gyda'n cyfarpar, ein haddysgu a'n cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf er mwyn eich ymdrochi yn y diwydiant o'ch dewis, creu argraff ar gyflogwyr a chynnal ymchwil hanfodol i newid y ffordd rydym ni'n meddwl ac yn byw.

Beth bynnag yw eich uchelgais - bod yn arweinydd yn eich maes neu gael gyrfa mewn ymchwil ag effaith, ein graddau israddedig ac ôl-raddedig o safon fydd y cam pwysig cyntaf yn eich datblygiad proffesiynol.