Mae astudio yn yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol yn daith gyffrous lle cewch chi gyfle i archwilio egwyddorion ac elfennau peirianneg draddodiadol a modern er mwyn deall sut mae pethau'n gweithio, sut i'w gwella, datrys problemau a datblygu technoleg arloesol.

Yn yr hinsawdd bresennol ac amgylchedd heriol byd diwydiant a busnes heddiw, mae mwy a mwy o sefydliadau'n dibynnu ar beirianwyr ac arbenigwyr technegol.