- Disgrifiad
Gwyddor Biofeddygol yw astudiaeth wyddonol integredig o faterion biolegol sy'n gysylltiedig â chefnogi diagnosis a gwaith trin gwahanol gyflyrau sy'n effeithio ar ansawdd bywyd pobl, ac mae'n broffesiwn adnabyddus a gwerthfawr wedi'i seilio ar dystiolaeth sy'n cynnwys ymagwedd gyfrannol gydol oes at ddarparu diagnosis, asesu a chefnogi ymyraethau.
Bydd y cwrs hwn yn archwilio yr agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar Batholeg Celloedd a Moleciwlaidd yng nghyd-destun disgyblaeth diagnosis ac archwiliol Gwyddor Biofeddygol, gan ddefnyddio ymagwedd dysgu cyfunol ac integredig sy'n defnyddio cymysgedd o addysgu ar y campws ac ymagweddau dysgu ar-lein. Hefyd, byddai'r ymagwedd arloesol hon yn eich cefnogi i ddatblygu eich profiad dysgu ochr yn ochr â datblygu sgiliau ymarferol allweddol yn y labordy.
Bydd y cwrs hwn wedi'i lunio i ddarparu profiad academaidd heriol er mwyn ichi ddatblygu gyrfa yn sectorau'r Gwyddorau Biofeddygol a Gwyddor Bywyd.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Mae'r rhaglen yn cynnwys nifer o feysydd pwnc sy'n eich galluogi i ddatblygu a gwella eich gwybodaeth arbenigol am batholeg celloedd drwy astudio ac archwilio'r gwahanol ymagweddau sy'n galluogi gwaith archwilio microsgopig celloedd arferol ac anarferol (cytopatholeg), a meinweoedd (histopatholeg) er mwyn iddynt ddangos clefydau, megis:
• Ymchwil ac Arloesi
• Sylfeini Gwyddor Biofeddygol (gan gynnwys Ymarfer yn y Labordy, Diagnosteg, Anatomeg, Pathoffisioleg, Imiwnoleg, Hematoleg, Biocemeg, Geneteg, ymagweddau a thechnolegau arloesol ym maes gwyddor biofeddygol)
• Datblygu Ymarfer Proffesiynol
• Geneteg Canser
• Nanofeddygaeth a Therapiwteg
• Patholeg Celloedd (gan gynnwys strwythur gros a swyddogaeth celloedd arferol a meinweoedd, gan archwilio newidiadau strwythurol a allai ddigwydd mewn clefydau, gwyddor atgenhedlu, a thechnegau delweddau diagnostig a delweddu)
• Traethawd Ymchwil neu Bortffolio Datblygu Ymarfer Proffesiynol*
*Gan ddibynnu ar argaeledd y modiwlau hyn a'ch profiad gwaith blaenorol neu bresennol ym maes Gwyddor Biofeddygol
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2023
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.