Student asleep in lab

Mewn amgylchedd ymchwil ffyniannus sy'n ysgogi staff academaidd, swyddogion ymchwil a myfyrwyr fel ei gilydd, rydym wedi ennill enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol.

Drwy astudio gradd Meistr gyda ni, byddwch yn elwa o fodiwlau ac addysgu sydd wedi'u dylunio a'u llywio gan ein hymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang.  Bydd gennych fynediad at ein cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cynnwys ystafell trydanenceffalograffi dwysedd uchel (EEG), labordy cwsg gyda'r holl gyfarpar angenrheidiol, ystafell arsylwi cymdeithasol, labordai olrhain y llygaid, ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS) a chyflyru, labordy hyd oes ac ystafell babanod, yn ogystal â mwy nag 20 ystafell ymchwil aml-bwrpas.

Rydym yn un o'r Ysgolion Seicoleg Gorau yn y DU o ran effaith ein hymchwil yn y byd go iawn. Ystyrir bod 100% o'n hymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol o ran effaith (REF2021). Drwy ymgymryd â chwrs Ôl-raddedig a addysgir gyda ni, byddwch yn elwa ar gael eich addysgu gan academyddion blaenllaw, lle bydd eu dealltwriaeth o ddefnyddio eu gwyddoniaeth i sicrhau newid er budd cleifion a'r gymdeithas yn llywio addysgu, asesu a chynnwys y cwrs yn uniongyrchol. 

Ein Cyrsiau

Storïau Llwyddiant

NAMITHA BABU

MSc Seicoleg

wedi'u graddio o MSc Seicoleg