Trosolwg o'r Cwrs
Hoffech chi fod yn arweinydd effeithiol ym meysydd rheoli adnoddau dynol a rheoli pobl? Ydych chi am feithrin yr wybodaeth a'r ddealltwriaeth i fynd i'r afael â'r her fwyaf sy'n wynebu sefydliadau?
Rhaglen arbenigol yw hon sy'n darparu'r wybodaeth angenrheidiol i ddatblygu gyrfa lwyddiannus fel ymarferydd rheoli pobl proffesiynol ac mae'n meithrin gallu ym maes rheoli pobl, gwaith a newid.
Gan fod datblygiad a lles gweithwyr wrth wraidd y rhaglen, mae ein graddedigion yn sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad drwy reoli unigolion a gweithluoedd yn ofalus.
Mae'r rhaglen hon yn addas i raddedigion yn ogystal ag ymarferwyr adnoddau dynol proffesiynol sydd am ennill cymhwyster ôl-raddedig. Mae wedi'i chynllunio i ddarparu cymhwyster datblygu gyrfa amserol i'r rhai sy'n gweithio, neu a hoffai weithio, yn y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector.