Er mwyn cael eich ystyried i astudio fel myfyriwr ôl-raddedig, rhaid i chi fodloni gofynion mynediad cyffredinol y Brifysgol yn ogystal ag unrhyw ofynion penodol ar gyfer y rhaglen a ddewiswyd gennych.

  • Yn gyffredinol, y gofyniad mynediad sylfaenol ar gyfer cyrsiau a addysgir yw gradd anrhydedd ail ddosbarth is (2:2) neu gymhwyster cyfatebol. Fodd bynnag, mae nifer o gyrsiau yn gofyn am radd anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1) neu gymhwyster cyfatebol. Gweler y tudalennau cyrsiau unigol am wybodaeth. 
  • Byddwn yn croesawu cais gennych os oes gennych brofiad gwaith llawn amser arwyddocaol a pherthnasol, ond nad oes gennych radd baglor (neu gymhwyster cyfatebol). Caiff ceisiadau eu barnu ar sail unigol.
  • Fel canllaw, disgwylir fel arfer i chi allu dangos profiad arwyddocaol o brofiad llawn amser am gyfnod o 3 blynedd o leiaf os mai cymwysterau Safon Uwch yw eich cymwysterau uchaf a 5 mlynedd os mai cymwysterau TGAU yw eich cymwysterau uchaf. Caiff perthnasedd eich profiad ei ystyried hefyd.
  • Bydd ein penderfyniad yn ystyried arwyddocâd eich profiad a'i berthnasedd i'r rhaglen astudio a ddewiswyd gennych. Noder y gofynnir i chi hefyd ddangos y gallwch ymgymryd â gwaith o safon briodol a dylid cynnwys unrhyw dystiolaeth ar eich ffurflen gais (er enghraifft, dylech gynnwys trawsgrifiad os ydych eisoes wedi astudio modiwl Lefel-M annibynnol)

Cyfeiriwch at dudalen y cwrs unigol i weld gofynion mynediad rhaglenni penodol. Yn ogystal â chymwysterau academaidd a phrofiad ymarferol, rydym yn chwilio am dystiolaeth o'ch diddordeb yn y rhaglen a dealltwriaeth o ofynion caeth astudio fel myfyriwr ôl-raddedig.

 

Fel arall, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn i Ôl-raddedigion i gael cymorth.