Byddwn yn anfon neges e-bost atoch i gydnabod ein bod wedi cael eich cais. Er ein bod yn cael cannoedd o geisiadau bob wythnos yn ystod y cyfnodau prysuraf, unwaith y byddwn wedi cael yr holl ddogfennaeth ategol, rydym yn anelu at eich hysbysu am ein penderfyniad (neu gyflwyno gwahoddiad i chi ddod am gyfweliad) o fewn 9 diwrnod gwaith o'r dyddiad y byddwn yn cydnabod ein bod wedi cael eich cais. Wedyn, bydd y Swyddfa Derbyn yn cynnal gwiriadau ar bob cais ac yn tynnu sylw at y wybodaeth bwysig i Ddetholwyr Derbyn ei hystyried (e.e. p'un a ydych yn debygol o fodloni gofynion mynediad y Brifysgol/eisoes wedi'u bodloni, p'un a oes gennych unrhyw ofynion penodol ac ati).
Os na fyddwch wedi cynnwys gwybodaeth allweddol fel rhan o'ch cais, megis trawsgrifiad academaidd, byddwn yn gohirio'r cais ac yn cysylltu â chi drwy e-bost er mwyn gofyn am y ddogfen goll. Mae rhai cyrsiau Meistr (yn enwedig yn yr Adran Iaith a Llenyddiaeth Saesneg) yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr ddarparu gwaith ysgrifenedig ychwanegol i ategu cais.
Unwaith y bydd yr holl wiriadau wedi'u cwblhau ac y bydd y dogfennau allweddol wedi'u hatodi, caiff eich cais ei anfon i Ddetholwr Derbyn yr Ysgol/Coleg i'w ystyried.