Trosolwg o'r Cwrs
Ydych chi wastad wedi eisiau cychwyn eich busnes eich hun? Ydy gweithio dros eich hun a phennu'ch agenda a'ch nodau eich hun yn apelio atoch? Os oes gennych gymhelliant entrepreneuraidd, ymrwymiad a dyfalbarhad, gallwch weithio unrhyw le yn y byd - does dim terfyn.
Ar y rhaglen MSc Rheoli (Menter ac Arloesi) ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddamcaniaethol o natur entrepreneuriaeth, rôl entrepreneuriaid yn yr economi a modelau gweithredu busnesau entrepreneuraidd.
Bydd y rhaglen hon yn eich galluogi i feithrin y sgiliau i sefydlu, gweithredu a thyfu'ch busnes eich hun. Bydd y rhaglen hon yn berthnasol hefyd os hoffech weithio mewn sefydliad mawr ac mae gennych ddiddordeb mewn newid entrepreneuraidd.
Byddwch hefyd yn dysgu am reoli mewn cymuned fyd-eang gyd-gysylltiedig yn ogystal â chysyniadau rheoli craidd, megis rheoli adnoddau ariannol, rheoli gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol a rheoli marchnata, i roi sylfaen gadarn i chi mewn amrywiaeth o egwyddorion busnes dynamig.
Mae'r cwrs wedi'i achredu gan y Sefydliad Rheoli Siartredig (CMI), yr unig gorff proffesiynol siartredig yn y DU a sefydlwyd yn unswydd i hyrwyddo'r safonau uchaf o ran rhagoriaeth rheoli ac arwain, ac mae ar agor i fyfyrwyr o unrhyw ddisgyblaeth a hoffai weithio ym maes busnes neu reoli. Wrth i chi raddio, byddwch yn derbyn tystysgrif lefel 7 y CMI.
Gwyddom ein bod yn byw mewn byd cystadleuol. I'ch eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich astudiaethau ac achub y blaen ar eich cystadleuwyr, mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modiwl sgiliau academaidd sy’n ymdrin â materion megis dulliau ymchwil.