Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Lleoedd a Ariennir
Cefnogir y rhaglen Cydymaith Meddygol ar hyn o bryd drwy fwrsariaeth Llywodraeth Cymru. Ar gyfer 2022/23 gallwn gadarnhau bod 36 o leoedd a ariennir wedi cael eu cynnig i ni ar y rhaglen Cydymaith Meddygol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ein hysbysu y bydd cyllid ar gyfer y cwrs hwn wedi ei gyfyngu i fyfyrwyr sy'n fodlon ymrwymo i weithio yng Nghymru am 18 mis ar ôl cymhwyso. Drwy dderbyn gwahoddiad i gyfweliad, rydych yn cadarnhau eich bod yn ymrwymo i hyn. Ni fydd y pecyn cyllido llawn ar gael ond i unigolion sy'n fodlon gwneud yr ymrwymiad hwn. Rhowch wybod i ni cyn gynted â phosib os hoffech dynnu'ch cais yn ôl neu os nad ydych am dderbyn eich gwahoddiad i gyfweliad. Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig lleoedd i fyfyrwyr sy'n talu eu ffioedd eu hunain.
Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru
Mae Llywodraeth Cymru, drwy GIG Cymru, yn darparu cyllid ar gyfer y cwrs Cydymaith Meddygol yma yn Abertawe gan gynnwys cost ffioedd dysgu. Gellir gwneud cais am grant o £1000 nad yw'n dibynnu ar brawf modd. Mae bwrsariaeth arall sy'n ddibynnol ar brawf modd ar gael hefyd. Os ydych yn gymwys i gael bwrsariaeth sy'n dibynnu ar brawf modd, gallech gael cymorth ar gyfer teithio, llety (tra byddwch ar leoliad), gofal plant, Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, Lwfans Dibynnydd a Lwfans Dysgu i Rieni.
*Am ragor o fanylion darllenwch ddogfen Telerau ac Amodau Cynllun Bwrsariaethau GIG Cymru, gan mai GIG Cymru sy'n gweinyddu’r bwrsariaethau hyn, nid Prifysgol Abertawe.
Costau Ychwanegol