Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Hanes Modern

GORUCHWYLIWR(WYR) - Dr Christoph Laucht, Dr Tomás Irish, Dr Adam Mosley

GRADD YMCHWIL (PhD)

TEITL Y TRAETHAWD - History of Science: Science and Universities Swansea 1920-2020

Crynodeb o'r Ymchwil

Roedd sylfeini Coleg Prifysgol Abertawe yn seiliedig ar sgyrsiau a dadleuon ynghylch darpariaeth a datblygiad addysg wyddonol yng Nghymru. Bydd fy ymchwil yn nodi ac yn gwerthuso cysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol y gyfadran wyddoniaeth â diwydiant, masnach a'r byd academaidd o greu'r sefydliad ym 1920 drwy'r degawdau i'r 1960au.

Byddaf yn taeru bod cysyniad cymuned ynghyd â rolau cydweithredu a rhwydweithiau'n hanfodol i lwyddiant datblygiadau addysgol gwyddonol yng nghyfadran wyddoniaeth y sefydliad. Caiff elfennau eraill a oedd yn hanfodol i dwf ymchwil a datblygiad, megis lefelau staffio ac isadeiledd, eu hasesu mewn perthynas ag ymateb y sefydliad i amgylchiadau ariannol andwyol a chyfnodau gwleidyddol anffafriol. Drwy ystyried cynnydd y gyfadran wyddoniaeth mewn cyd-destun ehangach naratifau gwyddonol a chymdeithasol, bydd yr ymchwil hon yn gyfraniad gwerthfawr at hanes y sefydliad.

An image of a planet