Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC: Ysgrifennu Creadigol (Sgriptio Ffilmiau, Ffuglen Wyddonol)

GORUCHWYLWYR: Dr Alan Bilton a'r Athro David Britton

GRADD YMCHWIL: PhD mewn Ysgrifennu Creadigol Ffuglen Wyddonol Sgriptio Ffilmiau

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL: Oer - Developing One’s Voice: A Heroine’s Journey to Literary Individuation in Speculative Fiction

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae Oer Developing One’s Voice yn cynnwys sgript ffilm nodwedd ffuglen ddamcaniaethol a gweithiau ffuglen wyddonol byrion eraill (drama lwyfan, sgript ffilm fer a ffilmiau byrion wedi'u cyfarwyddo) ynghyd â sylwebaeth feirniadol sy'n archwilio ac yn cysylltu ymarfer creadigol yr ymchwilydd-sgriptiwr â'r broses unigoleiddio llenyddol. Mae'r gweithiau ffuglen wyddonol gwreiddiol yn cynnwys sgript ffilm hyd lawn a dwy sgript ffilm fer. Mae'r gwaith yn mynnu bod datblygiad llais yr awdur yn adlewyrchu'r egwyddor ysgrifennu creadigol principium individuationis, ymddangosiad 'totality of all psychic processes' yn ôl Jung, ac esblygiad naturiol wrth hyrwyddo'r hunan.

Yn y sgriptiwr benywaidd, mae'r esblygiad hwn o'r hunan yn ôl Jung yn cynnwys integreiddio cysgod agweddau bod wedi'u diarddel, a meithrin animws neu ymddangosiad 'delwedd ysbryd', ac yn y pen draw mae'n arwain y sgriptiwr at gyfanrwydd artistig. Mae'r gwaith dadansoddi ymchwil ymarfer creadigol yn sylwi ar monomyth yr awdur neu ei daith at lais ac unigoleiddio llenyddol neu gyflawni potensial creadigol yn fframweithiau cysyniadol esblygiad dynol, datblygiad yn ystod plentyndod, a hyrwyddo'r seice a'r bersonoliaeth fenywaidd unigol.

Mae'r sylwebaeth yn cynnig bod datblygu llais yn cysylltu'n uniongyrchol â materion hanfodol o ymlyniad a hunaniaeth ac y gall oedolyn creadigol feithrin y broses unigoleiddio llenyddol. At hynny, mae'r testun yn dangos bod elfennau naratif sydd wedi'u gwreiddio'n organig yn y ffilmiau ffuglen wyddonol, gan gynnwys strwythur y stori, y plot, y thema, y cymeriadau, y dirwedd a'r symbolau, yn berthnasol i daith arwres yr ymchwilydd sgriptiwr tuag at integreiddio seice ac unigoleiddio llenyddol, ac yn adlewyrchu hynny.

An image of a Director Cutboard