Manylion am yr Ymchwil

Maes Pwnc: Astudiaethau Gwleidyddol a Diwylliannol

Goruchwyliwr: Dr Matthew Wall a Dr Stephen Lindsay

Gradd Ymchwil: PhD

Teitl y traethawd ymchwil: Engaging Young People with Voting Advice Application Technologies

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio ar Gymwysiadau Cyngor ar Bleidleisio (VAA), sef gwefannau sy'n galluogi defnyddwyr i gydweddu ag ymgeiswyr gwleidyddol a phleidiau'n seiliedig ar eu cytundeb ar gasgliad o faterion. Mae'r traethawd ymchwil yn darparu adolygiad manwl o lenyddiaeth yn y maes sy'n archwilio dyluniad, effeithiau a data'r gwefannau. Yn ogystal â hynny, mae'n ceisio gosod VAA yng nghyd-destun technolegau'r we sy'n ymddangos, gan gwestiynu eu heffaith ar ymgysylltiad gwleidyddol yn y cyd-destun hwn.

Mae fy ngwaith yn archwilio a ellir defnyddio'r rhain er mwyn annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan fesur a yw'n cael effaith ar lefelau eu heffeithiolrwydd gwleidyddol.  Mae'r gwaith gyda phobl ifanc yn cynnwys cyflwyno sesiwn ar ddefnyddio VAA, ond hefyd yn sylweddoli pwysigrwydd dadlau wrth greu lefelau o hyder gwleidyddol mewn pobl ifanc drwy ddefnyddio VAA mewn sesiynau dadlau mewn ystafell ddosbarth.

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys: cyfranogiad gwleidyddol, gwleidyddiaeth ddigidol a Chymwysiadau Cyngor ar Bleidleisio.

An open book