Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol

GORUCHWYLIWR(WYR) - Yr Athro Liz Herbert McAvoy a Dr Roberta Magnani

GRADD YMCHWIL (MA drwy Ymchwil)

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Women, Empowerment, and the Natural World in Medieval Literature 1200-1500

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy ymchwil yn cwestiynu'r dybiaeth bod menywod yn ddi-rym ac wedi'u distewi o ran dynion rhwng 1200 a 1500. Rwy'n defnyddio'r byd naturiol i ddadansoddi menywod o'r Oesoedd Canol (o'r byd go iawn ac mewn ffuglen) a rymusodd eu hunain i dorri disgwyliadau nodweddiadol cymdeithas a sut mae hwn yn cael ei gyflwyno yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol.

Rwyf hefyd yn cymharu'r deunyddiau ysgrifenedig am fenywod gan ddynion a'r deunyddiau ysgrifenedig am fenywod gan fenywod. Mae fy ymchwil yn peri i fi hela ambell ysgyfarnog megis: cymdeithas yr Oesoedd Canol, llenyddiaeth yr Oesoedd Canol a llenyddiaeth Lydaweg, athroniaeth, rhywoleg, chwedloniaeth Geltaidd, cymdeithasau paganaidd a Chatholigiaeth i enwi ychydig yn unig. Rwy'n canolbwyntio'n bennaf ar destunau gan Marie de France, Hildegard of Bingen a chymeriadau megis Maid Marion, Mair o'r Aifft a Mair Magdalene.

An image of woodland