Manylion am yr Ymchwil

Maes Pwnc: Hanes

Goruchwyliwr: David Turner a Louise Miskell (Prifysgol Abertawe); Tim Boon (Yr Amgueddfa Wyddoniaeth)

Gradd Ymchwil: PhD

Teitl y traethawd ymchwil: Correcting Vision in Nineteenth Century Britain

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy nhraethawd ymchwil yn archwilio hanes yr hyn a roddir dros y llygaid, sbectol a gwydrau llygaid yn bennaf, a chywiro golwg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan ddefnyddio cyd-destun meddygol a chymdeithasol y cyfnod, mae'n archwilio sut cafodd cymhorthion gweld eu cynhyrchu, eu gwerthu a'u defnyddio.

Wrth wneud hynny, mae'n myfyrio ar themâu ehangach megis datblygiadau mewn technolegau profi golwg, arbenigaeth mewn meddygaeth a stigma nam ar y golwg a dyfeisiau i gywiro hyn.

Mae'n dadlau y bu cynnydd mewn gwybodaeth am y llygaid a defnydd o sbectol gan gyfran ehangach o'r boblogaeth a thrwy beidio ac ystyried y gallu i weld a dallineb fel pethau cyferbyniol sefydlog, mae'n archwilio rhinweddau edrych ar sbectrwm o gyflyrau'r llygaid a'u triniaeth er mwyn ystyried ystyr 'anabledd'.