Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Ieithyddiaeth Gymhwysol

GORUCHWYLIWR(WYR) - Yr Athro Nuria Lorenzo-Dus a Dr Robert Penhallurick

GRADD YMCHWIL (PhD/M.Phil/MA drwy Ymchwil) - M.Phil mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol

TEITL Y TRAETHAWD - Responsible Reporting: Media Guidelines and Newspaper Representations of Male Schizophrenia

Crynodeb o'r Ymchwil

Nod yr ymchwil hon yw archwilio i'r effaith y cafodd canllawiau Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) ar gynrychioliadau o sgitsoffrenia gwrywaidd yn nhri phapur newydd cenedlaethol. I gyflawni'r nod hwn, cynhelir dadansoddiad aml-ddull, gan gyfuno dadansoddiad cynnwys sy'n seiliedig ar iaith â dadansoddiad disgwrs (gwerthoedd newyddion) ar erthyglau a gyhoeddwyd rhwng 2014 a 2016.

Caiff yr erthyglau a ddewisir i'w hastudio eu mapio'n bennaf ar ganllawiau NUJ i nodi patrymau cyffredin o ran sut mae'r canllawiau hyn yn cael eu defnyddio cyn cynnal dadansoddiad disgwrs (gwerthoedd newyddion) i ganfod yr hyn sy'n gwneud yr erthyglau hyn yn deilwng o'u cyhoeddi. Y gobaith yw, wrth gynnal yr ymchwil hon, y caiff newidiadau yn y ffordd y cynrychiolir sgitsoffrenia gwrywaidd yn yr amserlen hon eu dal er mwyn i'r canfyddiadau hyn gael eu cyflwyno i aelodau NUJ fel y gellir nodi ffyrdd o atgyfnerthu eu canllawiau yng nghyhoeddiadau'r dyfodol.

An image of a stack of textbooks