Manylion am yr Ymchwil

Maes Pwnc: Y Clasuron, Hanes yr Henfyd ac Eifftoleg

Goruchwylwyr: Dr Marina Minas-Nerpel a Dr Kasia Szpakowska

Gradd Ymchwil:  PhD

Teitl y Traethawd:A study of Royal Female Power and Political Influence in Ancient Egypt: Contextualising Queenship in the Twelfth Dynasty

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy ymchwil yn archwilio presenoldeb gwleidyddol menywod brenhinol y Ddeuddegfed Frenhinlin drwy ddadansoddi eu cysylltiadau eiconograffig ac archeolegol, ynghyd â theyrnasiadau pwerus Neferuptah a rheolwr benywaidd cyntaf yr Aifft y mae tystiolaeth ddigamsyniol am ei theyrnasiad, Sobekneferu. Mae'r astudiaeth eiconograffig hon yn y traethawd ymchwil yn trafod rhinweddau penodol ac yn dehongli cynrychioliadau sy'n goroesi o fenywod brenhinol y Ddeuddegfed Frenhinlin fel dyrchafiadau o'u statws brenhinol mewn awdurdod ac yn rôl wleidyddol breninesiaeth.

Mae fy ymchwil hefyd yn egluro dilyniant menywod brenhinol y Ddeuddegfed Frenhinlin drwy esbonio a phwysleisio eu rolau llywodraethol cryf sy'n arwain at Neferuptah yn cael y presenoldeb gwleidyddol pennaf yn ystod teyrnasiad Pharo Amenemhat y 3ydd a Pharo Sobekneferu a ddatblygodd i fod yn bwerus iawn fel rheolwr benywaidd yr Hen Aifft.Mae'r prosiect yn archwilio'r Dywysoges Neferuptah a’r Pharo Sobekneferu drwy'r portreadau ohonynt sydd wedi goroesi, safleoedd claddu (posib), prosiectau adeiladu a nwyddau claddu â theitlau.  Hefyd, mae'r astudiaeth yn cynnwys catalog manwl gyda ffigurau.

Cyhoeddiadau

Equality among ancient Egyptian pharaohs: Deconstructing modern expressions of Sobekneferu’s female rulership and the political presence of Twelfth Dynasty royal women (cyhoeddiad ar waith)

The Evolution of Royal Female Power in the Late Old Kingdom through the Twelfth Dynasty. Cyhoeddwyd gan Brifysgol Memphis.

Cyllid a Dyfarniadau

Lleoliad gwaith proffesiynol yn Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg Gwent sy'n canolbwyntio ar Gofnod Amgylchedd Hanesyddol dros gyfnod o bythefnos, haf 2016. Wedi'i ariannu gan y Rhaglen Sgiliau Treftadaeth Allweddol a Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau

Gwobr y cyflwyniad gorau yng Nghynhadledd Diwrnod Cyflwyniad Graddedigion British Federation of Women, 14 Mai 2016.

Dyfarniad academaidd a phroffesiynol i ymweld ag amrywiaeth o safleoedd archeolegol, amgueddfeydd a sefydliadau eraill dros gyfnod o bythefnos yn yr Aifft, gwanwyn 2016. Wedi'i ariannu'n llawn gan The Egypt Exploration Society, Llundain, Lloegr.

Ancient Egyptian Statue