Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC: Hanes yr Oesoedd Canol

GORUCHWYLWYR: Dr Matthew Frank Stevens, yr Athro Deborah Youngs

GRADD YMCHWIL: PhD

TEITL Y TRAETHAWD: Apprenticeship Indentures in England, 1250 – 1500

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae indenturau prentisiaeth yn cynnig mewnwelediad i berthnasoedd sylfaenol rhwng meistri a phrentisiaid. Mae fy ymchwil yn defnyddio indenturau mewn bod o 1255 i 1500, gan ddadansoddi eu cynnwys a'u strwythur i gynhyrchu arolwg cadarn o gynnwys contractau prentisiaeth, a'u lle mewn hanes cyfreithiol ac economaidd, i ddeall syniadaeth a pharhad strwythurau urddau Lloegr yn yr Oesoedd Canol.

Rwy'n ystyried pedwar prif faes: profiadau cymdeithasol-economaidd prentisiaid a meistri; y rhyngweithiad rhwng ffurf a chynnwys indenturau â natur a nodau urddau crefft Lloegr; safle cyfreithiol indenturau a phrentisiaid o fewn fframwaith cyfraith gwlad; diplomyddiaeth indenturau, agweddau ar gyfansoddiad a datblygiadau amserol a rhanbarthol posib.

Dyma ymchwil wreiddiol a fydd yn gwneud cyfraniad gwerthfawr at y llenyddiaeth academaidd sydd eisoes yn bodoli ar brentisiaid, urddau a'u safle cyfreithiol ac economaidd yn Lloegr yr Oesoedd Canol, a'i nod yw cynnwys indenturau yn ein gwybodaeth bresennol am ddiplomyddiaeth yr Oesoedd Canol.

An image of an archiving system