Mae ein hymchwil ar heriau byd-eang a chynaliadwyedd yn denu cyllid o bwys gan yr ESRC, yr AHRC, yr Academi Brydeinig, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a rhoddwyr elusennol. Mae’n cynnwys gwaith cydweithredol gyda phrifysgolion rhyngwladol, yn bennaf yng ngorllewin Affrica a de-ddwyrain Asia, a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau anllywodraethol, llywodraethau a chwmnïoedd sy’n gweithio mewn rhai o gymunedau tlotaf y byd.

I ysgogi datblygu byd-eang, mae ein hymchwilwyr ym meysydd Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol, Ieithoedd Modern ac Addysg yn gweithio gyda chyd-weithwyr yn y Gyfraith, Peirianneg a’r Gwyddorau Dynol ac Iechyd. Mae gwaith ymchwil wedi’i gefnogi gan y Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang, ac mae gwaith cydweithredol yn cynnwys yr MSc rhyngddisgyblaethol mewn Rheolaeth Peirianneg Gynaliadwy, a sefydlwyd yn 2017.

Mae ymchwil yn helpu llunwyr polisi i leihau tlodi a gwella canlyniadau iechyd, yn enwedig drwy ddatblygu mynediad gwledig yng ngorllewin Affrica. Mae’n cadarnhau ffyrdd o liniaru effeithiau ar dlodi yn ystod blynyddoedd cynnar plentyndod; ar ddadleoli ffoaduriaid; ar fasnach cyffuriau, troseddu a diwylliant ar dlodion mewn trefi a dinasoedd; ac erlid hawliau dynol lleiafrifoedd.

Mae gan y Coleg sawl grŵp ymchwil sy’n cynnig ymchwil, hyfforddiant a goruchwyliaeth sy’n ymwneud mewn ffordd uniongyrchol â’r nod o annog datblygu yn rhannau tlotaf y byd. Mae ymchwilwyr yn y Coleg hefyd yn aelodau o rwydwaith Heriau Byd-eang y Brifysgol, gan gyfrannu at wythnos Gweithredu ar yr Hinsawdd bob mis Mawrth.