Mae ymchwilwyr yn LTI Prifysgol Abertawe’n ymgymryd â phrif raglen ymchwil DU-eang:“Cross-Language Dynamics – Reshaping Community”.

​“Mae “Cross-Language Dynamics – Reshaping Community” yn rhaglen pedair blynedd (2016-2020), ac un o bedair sy'n rhan o Fenter Ymchwil Byd Agored Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau). Arweinir y rhaglen gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Manceinion (Prif Ymchwilydd: Yr Athro Stephen Hutchings) ac mae'n cynnwys 12 sefydliad yn y DU.  

Depictions of various symbols and their function across languages

Nod trosgynnol y rhaglen OWRI yw datblygu paradeim ymchwil newydd ar gyfer Ieithoedd Modern drwy ail-lunio cysyniad y berthynas rhwng iaith a chymuned er lles byd mwy agored. Bydd y rhaglen yn ymchwilio i gymunedau amlieithog, trawswladol a thrawsieithog mewn cyd-destunau amrywiol, gan ddefnyddio dulliau amrywiol, er mwyn ateb cwestiynau megis:

  •  Ydy'r ieithoedd rydym yn eu siarad yn diffinio'r cymunedau rydym yn uniaethu â nhw?
  •  Sut gellir gwneud ffiniau cymunedau iaith yn fwy agored?
  •  Beth yw'r cysylltau a'r diffyg cysylltiadau rhwng iaith a chenedligrwydd?
  •  Beth yw deinameg adeiladu cymunedau, rhwng prosesau o'r brig i lawr, prosesau a ysgogir gan wladwriaeth neu sefydliadau a gweithredu ar lawr gwlad?

​Mae ymchwilwyr yn Abertawe yn cyfrannu at y rhaglen OWRI drwy waith sy'n canolbwyntio ar greu dealltwriaeth newydd o:

  •  gyfieithu ar y pryd ffurfiol ac anffurfiol mewn cymunedau, gan gyfeirio'n benodol at geiswyr lloches a ffoaduriaid yn lleol 
  •  deinameg ddiwylliannol drawsieithog (e.e. ieithoedd ffiniau, trawsieithrwydd llenyddol)
  •  gwleidyddiaeth trawsieithrwydd (e.e. mynegiant pŵer meddal yn y byd Arabaidd ac ardal Môr y Canoldir)
  •  trawsieithrwydd a dysgu iaith yn anffurfiol ar gampws y brifysgol.

Ceir yma wybodaeth am Gam 2.