Er gwaethaf ei bwysigrwydd, mae effaith dur ar y sawl a fu'n gweithio yn y diwydiant, eu teuluoedd a'r trefi lle roeddent yn byw yn parhau i fod yn agwedd ar hanes Cymru  yr ugeinfed ganrif nad ydym yn gwybod llawer amdani.

Mae prosiect 'Bydoedd Cymdeithasol Dur' yn archwilio'r dimensiynau dynol hyn a lywiodd bywydau cynifer o bobl yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. I wneud hynny, mae'n edrych y tu hwnt i ffwrneisi a melinau gweithfeydd dur mwyaf Cymru i ddarganfod sut addasodd unigolion, cymunedau a sefydliadau i ofynion y diwydiant dur ar ei anterth.

Yn ystod uchafbwyntiau'r diwydiant yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac wedi 1945, daeth cwmnïoedd dur i fod yn rhan o ddarparu tai, cludiant, cyfleusterau addysgol ac adloniant mewn trefi yng Nghymru o Lynebwy a Phort Talbot yn y de, i Shotton a Brymbo yn y gogledd-ddwyrain. Wrth wneud hynny, roedd ganddynt rôl mewn creu cymunedau o gymeriad gwahanol iawn o'u cymharu â threfi diwydiannol Cymru yn Oes Fictoria.

Drwy ymchwilio i fydoedd cymdeithasol dur, gallwn weld yn agos effaith y diwydiant ar ddarlun cartref pobl y dosbarth gweithiol a oedd yn datblygu, y berthynas rhwng y cartref a'r gweithle a phatrymau o ryngweithio cymdeithasol. Bydd yr hyn a ddysgir yn taflu goleuni nid yn unig ar fydoedd cymdeithasol dur yng Nghymru ond hefyd ar agweddau allweddol ar gymdeithas Prydain yn yr ugeinfed ganrif.

Mae Bydoedd Cymdeithasol Dur yn brosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau a arweinir gan yr Athro Louise Miskell o Adran Hanes Prifysgol Abertawe.

Map of the steelworks.
Steel machinery.
Overalls on hooks beneath the TATA steel sign.
An old sign demonstrating a handshake.