Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Astudiaethau Lladin-Americanaidd, Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu 

GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWYR - Dr L.H. Davies a Dr A. Williams 

GRADD YMCHWIL (PhD/MPhil/MA drwy Ymchwil) - PhD 

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Redefining testimonio: The enduring significance of testimonial production in contemporary Argentina 

Crynodeb o'r Ymchwil

Gwnaeth llenyddiaeth dystiolaethol, a adnabyddir fel testimonio yn Sbaeneg, sbarduno llawer o drafodaeth ymysg critigiaid yn y 1980au yn benodol, pan fu'r math newydd hwn o lenyddiaeth ar ei anterth. 

Mae'r traethawd ymchwil hwn yn cynnig bod corff sylweddol o waith wedi cael ei greu, ac yn parhau i gael i greu, yn yr Ariannin gyfoes sy'n herio syniadau sefydlog o testimonio a chysyniadau traddodiadol ynghylch sut mae cymdeithasau sydd wedi dioddef trawma yn cofio, yn enwedig drwy waith llenyddol.  

Caiff cysyniadau fel ôl-gofio ac iaith fel syniadaeth eu harchwilio yn ogystal ag enghreifftiau o dystiolaeth tramgwyddwyr, cofiannau herwfilwyr, barddoniaeth gyfoes a gwaith ysgrifennu Iddewon yr Ariannin a'r ddadl bod llenyddiaeth gyfoes yr Ariannin yn ailddiffinio ein dealltwriaeth o testimonio fel dull ac yn amlygu arwyddocâd parhaol creu tystiolaeth mewn cymdeithasau ar ôl gwrthdaro ledled y byd. 

 

 

Image of a stack of books