Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Ysgrifennu Creadigol (Saesneg)

GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWYR - Yr Athro David Britton, Yr Athro Derek Connon, Dr Mark Redknap, (allanol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru)

GRADD YMCHWIL - PhD

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Pasticcio Opera: An overview from 1600 to 2014. Hefyd, opera glytwaith newydd a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llywelyn Fawr: Y Llyw yn y Llun.

Crynodeb o'r Ymchwil

Opera glytwaith yw'r arfer o ddethol dilyniannau cerddorol sydd eisoes yn bodoli a'u haildrefnu er mwyn adrodd stori newydd a gwahanol. Caiff y gerddoriaeth ei thrawsgyweirio ar gyfer mathau gwahanol o leisiau, yn aml caiff y cywair ei newid, ceir geiriau newydd a chrëir opera gwbl newydd. Am y 230 o flynyddoedd cyntaf yr oedd y ffurf gelf ar waith, hwn oedd y dull arferol o greu opera. Mae clytwaith yn mynd yn groes i'r cysyniad bod gwreiddioldeb o ran cyfansoddi yn ganolog i waith rhagorol.

Yn lle hynny, mae'n cynnig y syniad bod cannoedd o ddefnyddiau dramatig posibl ac efallai dwsinau o straeon wedi'u cuddio ym mhob dilyniant cerddorol, y gallai rhai ohonynt fod yn well yn ddramayddol na bwriadau gwreiddiol y cyfansoddwr. Yn ogystal â'r traethawd ymchwil, mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi fy nghomisiynu i ysgrifennu opera glytwaith newydd am Llywelyn Fawr. Gan ddefnyddio cerddoriaeth Handel, caiff yr opera glytwaith hon ei chyflwyno y flwyddyn nesaf.

An image of music sheets