Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Llenyddiaeth Saesneg

GORUCHWYLIWR(WYR) - Dr Marie-Luise Kohlke a Dr Alice Barnaby

GRADD YMCHWIL (PhD/M.Phil/MA drwy Ymchwil) - PhD

TEITL Y TRAETHAWD - Daphne du Maurier: Gendering the Gothic

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae fy ymchwil yn archwilio'r ffyrdd y mae Daphne du Maurier (1907-1989) yn defnyddio'r dull Gothig fel dyfais i archwilio'i hunaniaeth rhywedd ei hun drwy ei ffuglen. Er nad yw hwn yn gysyniad newydd, mae ffocws fy ngwaith yn wahanol i'r feirniadaeth sefydledig am yr awdur gan ei fod yn ystyried ei holl waith.

Mae llawer o feirniaid wedi anwybyddu adrannau mawr o waith du Maurier, gan ganolbwyntio'n bennaf ar ei nofelau mwy poblogaidd. Mewn cyferbyniad â hyn, rwy'n defnyddio'r deunyddiau bywgraffyddol ac archifau sydd ar gael i raddau helaeth, i archwilio ymgysylltiad du Maurier â'r ddau rywedd, ei deurywioldeb posib a'r gwrthdaro a adlewyrchir yn ei hysgrifennu o ganlyniad i hyn. Yn y ffordd hon, mae fy nhraethawd ymchwil yn dehongli'r olion hunangofiannol a 'guddir' yn ei hysgrifennu i ddadlau ei bod wedi defnyddio ei ffuglen fel ffurf anuniongyrchol o ysgrifennu am ei bywyd.

Felly, mae fy ymchwil yn cyfuno fframweithiau damcaniaethol croestoriadol amrywiol, yn benodol y dull Gothig, theori rhywedd, astudiaethau cwiar, ysgrifennu am fywyd ac ymarfer hunan/gofiannol.

An image of a historical building