Manylion am yr Ymchwil

ADRAN/MAES PWNC - Hanes Trefol

GORUCHWYLIWR/GORUCHWYLWYR - Yr Athro Louise Miskell a Dr Martin Johnes

GRADD YMCHWIL - PhD

TEITL Y TRAETHAWD YMCHWIL - Identity, Ambition and Influence: The Development and Establishment of Urban Middle Classes in Aberavon, 1830-1915

Crynodeb o'r Ymchwil

Mae'r ymchwil hon yn archwilio syniadau o hunaniaeth ac uchelgais yn nhref fach Aberafan ar arfordir Cymru wrth iddi ddatblygu yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, ac mae'n asesu sut effeithiodd penderfyniadau a gweithredoedd unigolion dylanwadol ar y datblygiad hwnnw.

Mae dogfennau gwreiddiol fel cofnodion y Cyngor a llyfrau arolygwyr, llythyron at Glerc y Dref ac oddi wrtho, llyfrau etholiadau, Rhestrau o Ddinasyddion, Llyfr Cofnodion y Festri, atodiadau cyfrifiadau, llyfrau masnach, a phapurau sy'n ymwneud ag ymgorffori ym 1861, yn ychwanegu at ansawdd yr astudiaeth, fel y mae erthyglau o'r papur newydd lleol The Cambrian.

Mae'r gwaith yn cyfeirio at arwyddocâd swyddogion cyhoeddus wedi'u talu fel aelodau'r dosbarthiadau canol newydd ac mae'n dadansoddi graddau eu dylanwad wrth wireddu neu rwystro uchelgeisiau. Mae'n cyfrannu at astudiaethau o ddosbarthiadau canol trefol Prydain drwy roi safbwynt Cymreig newydd ynghylch y cyfnod hynod ddiddorol hwn a rhoi perthnasedd ehangach i ymchwil i sut roedd y Fictoriaid a'r Edwardiaid yn trin a thrafod trefoli.

An image of a stack of books